Mae Plaid Cymru wedi cadarnhau wrth golwg360 y byddan nhw’n cyflwyno enw eu harweinydd Rhun ap Iorwerth i fod yn Brif Weinidog nesaf Cymru.

Daw hyn wrth i Mark Drakeford gamu o’r neilltu yr wythnos hon.

Vaughan Gething sydd wedi ennill ras arweinyddol Llafur Cymru, gan guro Jeremy Miles, ac mae disgwyl y bydd ei benodiad yn cael ei gadarnhau yn dilyn pleidlais yn y Senedd.

Ond fel rhan o’r broses honno, mae modd i’r gwrthbleidiau gyflwyno’u hymgeiswyr eu hunain hefyd.

Mae gan Lafur fwyafrif o un yn y Senedd ar hyn o bryd, yn dilyn gwaharddiad Rhys ab Owen o Blaid Cymru.

‘Cwestiynau difrifol’

Yn ôl Plaid Cymru, mae “cwestiynau difrifol” ynghylch “barn a thryloywder” Vaughan Gething, y darpar Brif Weinidog.

Daeth i’r amlwg fod ei ymgyrch arweinyddol wedi derbyn £200,000 yn rhodd gan gwmni sy’n cael ei redeg gan ddyn gafwyd yn euog ddwywaith o droseddau amgylcheddol.

Mae Vaughan Gething yn gwadu ei fod e wedi gwneud unrhyw beth o’i le, er bod pwysau arno i ddychwelyd yr arian.

Ac fe ddaeth e dan y lach unwaith eto dros y penwythnos yn dilyn sylwadau sarhaus honedig am newyddiadurwyr wrth siarad â Teleri Glyn Jones o’r BBC.

“Bydd Plaid Cymru yn enwebu Rhun ap Iorwerth yn y bleidlais i ethol Prif Weinidog newydd Cymru yfory,” meddai llefarydd ar ran y Blaid.

“Mae’r mathemateg yn mynnu y bydd Vaughan Gething yn sicrhau pleidlais fwyafrifol, ond yn yr hinsawdd wleidyddol sydd ohoni, mae cwestiynau difrifol am farn a thryloywder yn gofyn am ystyried ymgeiswyr amgen.”

“Dyw penodi Vaughan Gething ddim yn newid y Cytundeb Cydweithio o gwbl”

Cadi Dafydd

“Mi fyddwn ni dal i sgriwtineiddio Llafur yn yr un ffordd ar lawr y Senedd, ac mi fyddwn ni dal i gydweithio ar y prosiectau sydd ar ôl i’w cwblhau”