Mae Cabinet Cyngor Powys wedi cymeradwyo cynlluniau i symud ysgol bob oed yng ngogledd Powys ar hyd y continwwm ieithyddol fel ei bod yn dod yn ysgol Gymraeg yn y pen draw.

Roedd Cyngor Sir Powys yn cynnig symud Ysgol Bro Caereinion yn Llanfair Caereinion ar hyd y continwwm ieithyddol o fod yn ysgol ddwy ffrwd i fod yn ysgol Cyfrwng Cymraeg ar sail gyfnodol.

Bydd hyn yn galluogi’r holl ddysgwyr i ddatblygu eu sgiliau iaith a dod yn rhugl yn y Gymraeg a’r Saesneg, gan sicrhau eu bod yn dod yn gwbl ddwyieithog ac yn gallu defnyddio’r ddwy iaith yn hyderus yn y dyfodol.

Bydd hefyd yn sicrhau bod disgyblion yr ardal yn gallu cael mynediad at ddarpariaeth uwchradd cyfrwng Cymraeg ddynodedig.

Mae’r ddarpariaeth hon eisoes ar gael i ddisgyblion mewn rhannau eraill o Gymru, ond nid ym Mhowys ar hyn o bryd.

Ymgynghoriad a phryderon

Cynhaliodd Cyngor Powys ymgynghoriad saith wythnos o hyd, rhwng Hydref a Rhagfyr y llynedd, a daeth dros 800 o ymatebion i law.

Yr argymhelliad gafodd ei ystyried gan y Cabinet oedd y dylai’r Cyngor fynd yn ei flaen gyda’r cynnig i newid categori ieithyddol Ysgol Bro Caereinion drwy gyhoeddi Hysbysiad Statudol.

Yn ystod yr ymgynghoriad, cafodd pryderon eu codi am y gweithredu arfaethedig yn y cam uwchradd, a chafodd gwelliant ei wneud i ddyddiad dechrau’r trawsnewidiad, o Fedi 2025 i Fedi 2026.

Cafodd y gwelliant hwnnw ei dderbyn, ac yn ôl Marianne Evans, rheolwr trawsnewid ysgolion, bydd yr oedi’n “galluogi teuluoedd i ddeall y newidiadau a sut fyddan nhw’n effeithio arnyn nhw”.

Bydd hefyd yn galluogi’r awdurdod lleol i roi’r pecyn Trochi ar waith i gefnogi disgyblion.

Bydd modd hefyd i ddisgyblion ffrwd Saesneg yn Ysgol Bro Caereinion ac Ysgol Rhiw Bechan (Tregynon) i gael cludiant i’w hysgol Saesneg agosaf.

Ond y gobaith i rai yw y bydd y disgyblion yn dewis aros yn y ffrwd Gymraeg.

Clywodd cynghorwyr fod y penderfyniad i newid iaith yr ysgol wedi hollti barn, gan ei fod yn bwnc “emosiynol iawn”.

Dywed Elwyn Vaughan, cadeirydd panel addysg Gymraeg y Cyngor, ei fod yn dymuno gweld Ysgol Bro Caereinion yn cydweithio ag Ysgol Bro Hyddgen ym Machynlleth, sydd hefyd ar ei thaith tuag at ddod yn ysgol Gymraeg.