Mae teyrngedau wedi’u rhoi i Dr Morfydd E. Owen, arbenigwraig ar destunau cyfreithiol a meddygol yr Oesoedd Canol, sydd wedi marw.
Roedd hi’n un o dîm prosiect Beirdd y Tywysogion ac yn un o Gymrodyr Hŷn y Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd yn Aberystwyth.
Ymhlith ei gweithiau amlycaf roedd Drych yr Oesoedd Canol (1986), Beirdd a Thywysogion (1996), The Welsh Law of Women (1992 a 2017), a’r rhagair i argraffiad 2014 o Trioedd Ynys Prydein.
Yn 2017, cafodd y gyfrol ysgrifau Cyfarwydd Mewn Cyfraith ei chyhoeddi er anrhydedd iddi gan Gymdeithas Hanes Cyfraith Cymru.
“Diolchwn am ei chyfraniad sylweddol i ysgolheictod, a’i chyfeillgarwch a’i chefnogaeth ar hyd y blynyddoedd,” meddai’r Ganolfan wrth dalu teyrnged iddi.
“Estynnwn ein cydymdeimladau dwys at Luned, Bríd, a’r teulu yn eu profedigaeth.”
Mae Dr Angharad Elias o’r Ganolfan hefyd wedi talu teyrnged iddi.
“Gyda thristwch y clywais am farwolaeth Dr Morfydd E. Owen ar Ddydd Sant Padrig,” meddai.
“Ysgolhaig disglair a wnaeth gyfraniad enfawr i’n dealltwriaeth o destunau cyfreithiol a meddygol yr Oesoedd Canol.
“Bu’n diwtor cefnogol a hael ac yn gyfaill direidus.
“Diolch am bob dim Morfydd x.”
‘Ysgolheictod disglair’
Mae Gwasg Prifysgol Cymru wedi mynegi “tristwch mawr” yn dilyn ei marwolaeth.
“Meddai ar ysgolheictod disglair, a chyhoeddodd weithiau helaeth yn ymdrin â barddoniaeth llys a rhyddiaith ganoloesol Cymru,” meddai’r wasg.