Mae trigolion pentref yng Ngwynedd yn galw eto am beidio troi hen dafarn leol yn llety gwyliau.
Er i ddau gais blaenorol i droi llawr gwaelod Tafarn y Faenol ym Mhentir ger Bangor yn ddau lety gwyliau gael eu gwrthod, mae perchennog y dafarn newydd wneud trydydd cais.
Mae’r gymuned wedi gwrthwynebu’r ddau gais blaenorol hefyd, ac wedi datgan diddordeb i’w phrynu fel tafarn gymunedol.
Yn ôl Duncan Gilroy, sy’n berchen ar y dafarn ar y cyd â’i wraig ers 2021, byddai angen iddyn nhw roi cynnig realistig a thystiolaeth fod ganddyn nhw’r arian er mwyn iddo ystyried ei gwerthu.
Bu criw o wrthwynebwyr lleol yn ymgyrchu o flaen y dafarn ddydd Sul (Mawrth 17).
‘Hoelen arall yn arch cymuned’
Un sydd wedi bod yn gwrthwynebu’r cais ydy Cefin Roberts, yr actor a sylfaenydd Glanaethwy, sy’n byw yn y pentref.
“Rydyn ni fel pwyllgor Parchu Pentir, trigolion Pentir, Pentir Action Group wedi lleisio’n barn unwaith eto ac yn mynd i wrthwynebu’r cais unwaith eto,” meddai wrth golwg360.
“Dydyn ni fel trigolion ddim eisiau ei weld o’n troi yn AirBnB arall yn y cyffiniau.
“Mae hon wedi bod yn dafarn boblogaidd iawn ar hyd y blynyddoedd, ac mae yna dafarndai eraill yn y cyffiniau wedi cau yn y cyfamser, ac rydyn ni’n cael mwy o gefnogaeth.
“Dim ond un tafarn yn Nhregarth sydd gen ti o fewn y dalgylch i gyd, ac mae Pentir yn bentref bach bywiog iawn.
“Does gennym ni ddim na neuadd bentref na festri capel na choblyn o ddim byd yma, wedyn os ydyn ni’n colli’r dafarn…
“Beth rydyn ni eisiau fwyaf ydy hwb creadigol i bobol fynd yno.
“Rydyn ni’n gweld o’n hoelen arall yn arch cymuned.
“Mae o’n amlwg mewn lle canolog i fod yn dafarn lewyrchus, yn ogystal â’n bod ni ei hangen hi i’r pentref.”
Wedi i’r dafarn gael ei phrynu gan Duncan Gilroy, sydd yn dod o Ynys Môn a bellach yn byw yn Nhregarth, cafodd ei rhentu i gwmni preifat yn aflwyddiannus.
Yn ôl Duncan Gilroy, doedd y gymuned ddim yn cefnogi R and R Taverns Limited, ac felly bu’n rhaid iddyn nhw gau.
“Roeddwn i’n mynd yno’n aml ac yn gweld nad oedd o’n mynd i weithio oherwydd mae tafarn yn cymryd mwy na beth gafwyd ar y pryd i wneud llwyddiant ohoni,” meddai Cefin Roberts.
“Ychydig o fisoedd fuodd o ar agor, a dim ond ychydig o nosweithiau’r wythnos oedd o ar agor. Roeddet ti’n gwybod bod menter fel yna ddim am weithio.”
‘Ddim yn ystyried gwerthu’
Roedd Catrin Wager, ymgeisydd Plaid Cymru yn Arfon ar gyfer etholiadau nesaf San Steffan, ymysg y rhai fu’n gwrthwynebu ddydd Sul.
Mewn ymateb iddi, dywed Duncan Gilroy ei fod wedi gobeithio mynd i gyfarfod â’r trigolion i drafod ond ei fod i ffwrdd ar y pryd.
Ar ôl ymgais aflwyddiannus R and R Taverns Limited i redeg y dafarn, fe wnaeth Duncan Gilroy drafod y posibilrwydd i Pentir Action gymryd y brydles.
“Roedden ni wedi penderfynu ar dermau ffafriol iawn, ond yn anffodus fe wnaethon nhw dynnu’n ôl oherwydd doedden nhw methu agor cyfrif banc,” meddai Duncan Gilroy wrth golwg360.
“Dim ond ar ôl i’r gymuned dynnu’n ôl o’r brydles y gwnaethon ni wneud cais am ganiatâd cynllunio i newid y llawr gwaelod yn ddau dŷ gwyliau.
“Cyn gwneud y cais, fe wnaethon ni ddweud wrth yr holl drigolion lleol am ein bwriad.”
Ers hynny, maen nhw wedi derbyn llythyr gan y grŵp yn dweud y byddai gan y gymuned ddiddordeb mewn prynu’r adeilad “dan amodau penodol iawn”, ond ni wnaed cynnig.
“Fe wnaethon ni ofyn, os oedd ganddyn nhw ddiddordeb y byddai’n rhaid iddyn nhw arwyddo NDA (non-disclosure agreement) cyn unrhyw drafodaethau a byddai’n rhaid i ni weld tystiolaeth eu bod nhw’n gallu prynu’r eiddo er enghraifft drwy flaedal neu warant o’r cyllid.
“Fe wnaethon nhw wrthod arwyddo NDA ac yn amlwg doedden nhw methu dangos tystiolaeth o’r cyllid.
“Mae’r llawr gwaelod ar gael i’w rentu’n ddibynnol ar gynllun busnes cadarn a thystiolaeth o gyfalaf gweithio.
“Dw i wedi cynnig trafod gyda Pentir Action, ond dydyn nhw heb dderbyn y cynnig.
“Ar hyn o bryd dydy fy ngwraig na finnau ddim yn ystyried gwerthu’r adeilad; fodd bynnag, pe bai Pentir Action yn gwneud cynnig realistig a thystiolaeth o’r cyllid byddem ni’n edrych ar hyn.
“Fodd bynnag, bydden ni angen iddyn nhw arwyddo NDA.”
Ychwanega Cefin Roberts y byddai’n rhaid i’r rhent fod llawer is i’r gymuned allu ystyried rhentu’r llawr gwaelod.
“Mae o’n codi crocbris am y rhent tasa ni eisiau ac erbyn hyn mae cyflwr y dafarn tu mewn yn golygu bod yna lot o waith gwario cyn gallu agor y drysau,” meddai.
“Dw i’n meddwl mai’r gobaith ydy y bydd o’n gweld bod yna garfan helaeth eisiau tafarn a’i rhoi hi’n ôl ar y farchnad.”
Cafodd y cais diwethaf i Gyngor Gwynedd i newid y defnydd ei gyflwyno ar Fawrth 5, wedi iddyn nhw ofyn am ragor o wybodaeth ar ôl yr ail gais aflwyddiannus y llynedd.