Mae teyrngedau wedi’u rhoi i’r Parchedig Goronwy Evans, gweinidog yr Undodiaid yn Llanbed, sydd wedi marw’n 82 oed.

Yn enedigol o Gwmsychbant, bu’n weinidog ar Gapel Brondeifi yn Llanbed am hanner canrif, a rhai o gapeli eraill yr Undodiaid.

Roedd yn awdur nifer o lyfrau, gan gynnwys dau am grwydriaid, un am y gwyddonydd E.J. Williams, a llyfr o hiwmor y pulpud.

Sefydlodd siop lyfrau’r Smotyn Du yn Llanbed.

Yn 2021, cyhoeddodd Y Lolfa ei gyfrol Procio’r Cof, ond roedd yn mynnu nad oedd yn hunangofiant o unrhyw fath.

Fe wnaeth e a’i wraig, Beti, helpu i godi £1m i Blant Mewn Angen yn ardal Llanbed.

Roedd yn ddarlledwr cyson yn nyddiau cynnar Radio Cymru.

Mae’n gadael gwraig, Beti, a’u meibion Ioan Wyn a Rhidian a’u teuluoedd.

Teyrngedau

“Dim angen y cyfenw – roedden ni gyd yn gwybod pwy oedd Goronwy,” meddai Elin Williams, un o Lywyddion Anrhydeddus Eisteddfod Rhys Thomas James Llanbed.

“Ysgogwr ac ysbrydoliaeth.

“Cymwynaswr, cyfathrebwr, codwr arian, cyfaill.

“Diolch am bob cyfraniad diflino yn ardal Llanbed.”

Yn ôl y darlledwr Alwyn Jenkins, “Mr Llanbed” oedd Goronwy Evans.

“Wel, dyma chi newyddion trist iawn iawn,” meddai.

“Bob cydymdeimlad gyda’r teulu.

“Mr Llanbed oedd e i fi.

“Meddwl am Beti a’r teulu.”

Roedd y canwr Aled Hall yn “bartners mawr” â Goronwy Evans, meddai.

“Am newyddion trist ofnadwy heddi.

“Mae Llanbed wedi colli un o’r goreuon…o ni’n bartners MAWR â Goronwy, a meddwl am Beti, Ioan Wyn a Rhydian heddiw a danfon cydymdeimladau dwys atynt.

“Fydd yna golled mawr ar ei ôl.”