Mae Zonia Bowen wedi marw’n 97 oed.
Hi oedd sylfaenydd Merched y Wawr yn Y Parc yn 1967, ac o dan ei harweiniad fe wnaeth cangen W.I. y Parc dorri i ffwrdd oddi wrth Sefydliad y Merched, a sefydlu eu mudiad eu hunain am fod swyddogion Sefydliad y Merched yn gwrthod caniatáu i ferched y Parc weinyddu’r gangen trwy gyfrwng y Gymraeg.
Zonia Bowen hefyd oedd Ysgrifennydd Cenedlaethol cyntaf Merched y Wawr, a golygydd cyntaf eu cylchgrawn, Y Wawr.
Trefnodd hi nifer o deithiau tramor y mudiad, gan gynnwys taith i’r Undeb Sofietaidd yn 1975.
Torrodd bob cysylltiad â Merched y Wawr yn 1976, gan ymddiswyddo fel Llywydd Anrhydeddus.
Roedd nifer o brif swyddogion y mudiad ar y pryd o blaid cynnwys digwyddiadau Cristnogol fel gweithgareddau swyddogol, ac roedd hyn yn mynd yn groes i weledigaeth Zonia Bowen o sefydlu mudiad fyddai’n agored i bob merch.
Bywyd
Cafodd Zonia Margarita North ei magu yn Swydd Efrog.
Dechreuodd ddysgu Cymraeg pan oedd hi’n fyfyriwr ym Mhrifysgol Bangor yn y 1940au, gan astudio Ffrangeg.
Yn ddiweddarach, dysgodd Lydaweg hefyd a chyhoeddodd lyfrau dysgu Llydaweg cyfrwng Cymraeg.
“Dysgais Lydaweg gyda llyfra Zonia Bowen,” meddai Lleuwen Steffan.
“Yr unig lyfrau dysgu Llydaweg cyfrwng Cymraeg sy’n bod hyd y gwn i.
“Gwelodd harddwch y Lydaweg a rhannodd hynny.
“Parch i arwres tawel.”
Roedd Zonia Bowen a’i diweddar ŵr, y cyn-Archdderwydd Geraint Bowen, yn flaenllaw yn ymgyrch MADRYN yn erbyn claddu gwastraff niwclear yng nghanolbarth Cymru yn yr 1980au.
Bu hefyd yn weithgar gyda Dyneiddwyr Cymru.