Bydd papur bro Y Cyfnod yn ardal y Bala yn dychwelyd i’r siopau lleol ar ddechrau mis Ebrill.
Cafodd Y Cyfnod ei sefydlu bron i 90 mlynedd yn ôl, ond does yna’r un rhifyn wedi’i gyhoeddi ers y cyfnod clo bedair blynedd yn ôl.
Mae Cwmni Pum Plwy’ Penllyn wedi sicrhau grant Grymuso Gwynedd i greu cynllun peilot deuddeg wythnos i gyhoeddi papur newydd wythnosol.
Maen nhw wedi dechrau ar gyfnod arbrofol o dri mis i weld a oes galw digonol i ailafael yn y papur.
Beth yw rôl Cwmni Pum Plwy’ Penllyn?
Cwmni cymunedol yw Pum Plwy’ Penllyn, sydd wedi’i leoli yng Nghanolfan yr Henblas yn y Bala, a’u hamcanion yw darparu gwasanaethau a rheoli asedau ar ran y gymuned leol yn ardaloedd y Bala a Phenllyn.
Wrth siarad â golwg360, dywed yr ysgrifennydd Huw Antur fod y “cwmni’n chwilio am gyfleoedd i wella ansawdd bywyd trigolion yr ardal”.
“Yn sicr, un o’r syniadau mwya’ cyffrous yw’r bwriad i ailsefydlu’r Cyfnod fel papur wythnosol i’r ardal,” meddai.
“Dwi’n credu bod papur wythnosol yn bwysig iawn.
“Mewn cymuned wledig fel ardal y Bala a Phenllyn mae unigedd yn fwy o broblem nag erioed, yn arbennig ymysg y to hŷn.
“Dwi’n gobeithio y bydd Y Cyfnod yn dod â phobol yn ôl at ei gilydd trwy gynnig newyddion a gwybodaeth am ddigwyddiadau o bob math i’r ardalwyr.
“Mae yna fwlch mawr wedi bod heb Y Cyfnod, hefo trigolion lleol wedi colli’r llinyn arian oedd yn clymu pawb ynghyd.
“Mae’n rhaid cofio nad yw pawb yn defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol!”
Papur dylanwadol
Mae Lowri Rees-Roberts, Swyddog Prosiectau Y Cyfnod, eisoes yn gweithio ar y rhifyn cyntaf.
“Mi fyddaf yn gyfrifol am greu’r papur a’i osod bob wythnos,” meddai.
“Mae’r Cyfnod wedi bod yn rhan o fy mywyd ers yn blentyn ifanc iawn, roedd y ddarpariaeth yn wych, gan adael i bobol yn yr ardal wybod pa ddigwyddiadau a gweithgareddau oedd ymlaen.”
Cyn ceisio am y grant, fe wnaeth y cwmni waith ymchwil drwy lunio holiadur i’w ddosbarthu i’r cyhoedd.
“Cafwyd ymatebion lu gan nifer o’r ardal yn cynnwys pobol ifanc, canol oed a’r henoed, a chafwyd ymateb eithaf cymysg gyda nifer o’r to hwn yn awyddus i gael copi caled tra bod pobol ifanc yn awyddus i gael arlwy ddigidol,” meddai Lowri Rees-Roberts.
“Dw i’n bendant yn credu bod gofod ar gyfer y ddwy ddarpariaeth yn lleol yn ardal y Bala, Penllyn ac Edeyrnion.”
Barn gadarnhaol a gafwyd gan y gymuned hefyd, ac yn ôl Lis Puw, Clerc Cyngor Cymuned Llanuwchllyn, mae’n werth ei atgyfodi.
“Yng nghyfarfod Cyngor Cymuned Llanuwchllyn, roedden nhw yn trafod hyn yn sgil derbyn yr adroddiad ddoe ac roeddent hwythau wrth eu bodd,” meddai.
“Byddan nhw hefyd yn anfon eu cofnodion i’r Cyfnod, gan fod pobol yn licio darllen beth mae cynghorau lleol yn eu trafod, er mwyn codi ymwybyddiaeth am ddemocratiaeth leol.
“Felly bydd Y Cyfnod yn wych.”
Yn eu cyfarfod ddydd Mawrth (Mawrth 5), doedd dim gwrthwynebiad gan y Cyngor Cymuned i atgyfodi’r papur.
Mae papur bro arall eisoes yn bodoli yn yr ardal, sef Pethe Penllyn, ac mae’r ddau bapur wedi cydweithio dros y degawdau.
Ond yn ôl Huw Antur, “bydd gwahaniaeth sylfaenol rhwng y ddau bapur”.
Papur sy’n cynnig erthyglau ar wahanol faterion yw Pethe Penllyn, tra bo’r Cyfnod yn rhannu gwybodaeth gyfredol fel y newyddion diweddaraf a hanes digwyddiadau cymdeithasau’r ardal, yn ogystal â chynnig calendr o ddigwyddiadau cymdeithasol.
Cymraeg fydd prif iaith y papur
Papur dwyieithog oedd Y Cyfnod pan ddaeth i ben cyn Covid-19.
Ond Cymraeg fydd prif iaith y papur bellach.
“Ond mi fydd rhai elfennau dwyieithog,” meddai Huw Antur.
“Mi fydd hyn yn dibynnu llawer ar y mudiadau fydd yn anfon deunydd i’r papur.”