Ar Ddiwrnod y Llyfr heddiw (dydd Iau, Mawrth 7), mae Llywodraeth Cymru’n cefnogi ac wedi croesawu llwyfan darllen digidol newydd yn y Gymraeg.

Drwy ddefnyddio Darllen Co, gall plant ddarllen llyfrau Cymraeg, a gwrando arnyn nhw ar yr un pryd.

Mae gwefan newydd yn cael ei datblygu hefyd, fydd yn galluogi darllenwyr i glicio ar eiriau penodol i gael diffiniadau a gwybod sut i’w hynganu.

Bydd hefyd yn galluogi athrawon a rhieni nad ydyn nhw’n siaradwyr Cymraeg hyderus i ddarllen Cymraeg gyda phlant, lle nad oedd modd iddyn nhw wneud hynny gyda llyfrau traddodiadol.

Cafodd Darllen Co ei sefydlu ar gyfer plant ysgolion cynradd, athrawon a rhieni, yn sgil Hacathon Technoleg Cymraeg gafodd ei ariannu gan y Llywodraeth drwy M-Sparc.

Erbyn hyn, mae mwy na 40,000 o bobol a 70% o ysgolion Cymru’n defnyddio’r adnodd.

‘Mae’r Gymraeg yn perthyn i ni i gyd’

“Rwy’n falch iawn o gefnogi’r adnodd yma, sy’n helpu athrawon a rhieni i ddarllen Cymraeg gyda phlant,” meddai Jeremy Miles, Gweinidog Addysg a’r Gymraeg yn Llywodraeth Cymru.

“Mae’r Gymraeg yn perthyn i ni i gyd, ac mae’r adnodd hwn yn rhoi mynediad i ragor o bobl i lyfrau Cymraeg cyfoes, ac yn ffordd hwyliog o gyflwyno llenyddiaeth Gymraeg i blant.

“Mae cael mwynhad o lyfrau o oedran ifanc yn hollbwysig er mwyn gwreiddio arferion a sgiliau llythrennedd fydd yn galluogi plant i lwyddo gydol eu bywyd.”

Un ysgol sy’n cael budd o ddefnyddio’r adnodd yw Ysgol Penalltau yn Hengoed, Caerffili.

“Mae Darllen Co yn adnodd cyfoes a chynhwysfawr sy’n llenwi gwagle darpariaeth medrau darllen da mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg,” meddai Gwen Malson, arweinydd llythrennedd yr ysgol.

“Mae’r adnodd yn rhoi’r cyfle i’r disgyblion ddatblygu ac atgyfnerthu ystod o sgiliau wrth ddarllen testunau modern a chynhwysol ar blatfform sy’n rhwydd i’w ddefnyddio.”

‘Dod â syniad yn fyw’

Cafodd Darllen Co ei sefydlu gan Alex Knott, cyn-athro cynradd.

“Diolch i’r cyllid gan Llywodraeth Cymru, roeddem yn medru dod â’n syniad ni’n fyw,” meddai.

“Mae’r ymateb a’r adborth gan ysgolion wedi bod yn wych ac mae’n arbennig gweld cymaint o blant ac athrawon yn cael defnydd dyddiol o’r wefan.

“Rydym yn edrych ymlaen yn fawr at lansio ein llwyfan newydd ym mis Medi fydd yn cynnwys llawer mwy nodweddion arloesol a hefyd mwy o gymorth i rieni gartref, boed nhw’n siarad Cymraeg neu beidio.”

Ewch i wefan Darllen Co am ragor o wybodaeth.