Mae cwmni trenau cenedlaethol yr Almaen wedi amcangyfrif bod y llifogydd diweddar yno wedi achosi difrod gwerth 1.3 biliwn Euro i’w rhwydwaith, sydd tua £1.1 biliwn.
Mae’r awdurdodau yn parhau i drio canfod cyfanswm cost y difrod a oedd ar ei waethaf yng ngorllewin yr Almaen a dwyrain Gwlad Belg.
Dywedodd Canghellor yr Almaen, Angela Merkel, bod y difrod yn “aruthrol” a’i bod hi’n mynd i gymryd llawer o amser i atgyweirio.
Bu farw 208 o bobl yn y ddwy wlad – gyda 177 marwolaeth yn yr Almaen, a 31 marwolaeth yng Ngwlad Belg.
Atgyweirio am gymryd ‘misoedd, os nad blynyddoedd’
Dywedodd Deutsche Bahn, cwmni trenau’r Almaen, bod dros 50 bont, 180 croesfan rheilffordd, a dros 1,000 o fastiau signal a thrydan ymysg yr adnoddau oedd wedi dioddef difrod.
“Dydy ein hisadeiledd erioed wedi’i ddinistrio i’r graddau hyn o’r blaen,” meddai Volker Hentschel, aelod o fwrdd isadeiledd Deutsche Bahn.
Ychwanegodd Mr Hentschel ei bod hi’n mynd i gymryd “misoedd, os nad blynyddoedd” i adfer popeth, er bod y cwmni’n hyderus o atgyweirio 80% o’r difrod erbyn diwedd eleni.
Mae’r llywodraeth, sy’n rheoli Deutsche Bahn, wedi addo cychwyn ar yr ailadeiladu yn fuan.