Mae trigolion rhes o dai yn nhref Blaenau ym Mlaenau Gwent “mewn sioc” ar ôl clywed ei bod yn bosib y bydd eu cartrefi yn gorfod cael eu dymchwel.

Yn dilyn cwyn anhysbys, mae wedi dod i’r amlwg nad oedd y cartrefi’n cydymffurfio â chanllawiau cynllunio.

Yn wreiddiol fe wrthodwyd yr hawl i godi un tŷ deulawr, un tŷ ar wahân a chwe chartref i gyplau gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent yn 2014.

Ond gwnaeth arolygwyr cynllunio Llywodraeth Cymru wrthdroi’r penderfyniad hwnnw, ac yn ddiweddar ac fe adeiladwyd y cartrefi.

Ers hynny mae cwmni D3 Property Developments wedi cyflwyno cais cynllunio diwygiedig er mwyn sicrhau bod y cartrefi yn cael aros yn eu lle, ac fe aeth y cais gerbron Pwyllgor Cynllunio’r cyngor ddydd Iau, 22 Gorffennaf.

Dywedodd Eirlys Hallet, Rheolwr Cynllunio’r cyngor, bod yna ormod o faterion yn codi gyda’r tai ac ni fyddai ceisiadau diwygio yn ddigon i fynd i’r afael â’r sefyllfa.

Nododd adroddiad Eirlys Hallet i Bwyllgor Cynllunio Cyngor Bwrdseisdref Sirol Blaenau Gwent fod y dreifiau serth tu fas y tai yn creu perygl y byddai ceir yn rholio yn ôl i’r ffordd, gan achosi damwain.

Dywedodd y Rheolwr Cynllunio wrth y pwyllgor: “Mae’r cais hwn yn mynd yn groes i safonau priffyrdd.

“Yn broffesiynol, rwy’n teimlo nad oes gennyf ddewis heblaw dilyn cyngor swyddog priffyrdd y cyngor ac rwy’n argymell y dylid gwrthod y cais cynllunio.”

‘Trigolion mewn sioc lwyr’

Fe ddywedodd Andrew Pugh, sy’n cynrychioli perchnogion y tai, fod y “trigolion mewn sioc llwyr fod hyn wedi gallu digwydd”.

Esboniodd fod tai rhif 2 i 7 Rhes yr Ysgol i gyd wedi cael perchnogion ers mis Medi 2018, ac fe wnaed y cwyn ym mis Tachwedd 2018.

Dywedodd Mr Pugh: “Nid oeddem yn gwybod am y materion hyn.

“Hyd y gwn i, roedd popeth yn gyfreithiol ac fel y gallwch ddychmygu, os bydd y cynnig yn cael ei wrthod eto bydd y gost arnom ni yn drychinebus, gan ein bod ni i gyd wedi talu tua £200,000 yr un am y tai hyn.”

Fe ddywedodd Peter Barnes, asiant yn cynrychioli cwmni D3 Property Development wrth gynghorwyr y sir fod y datblygwr wedi cytuno i ostwng waliau’r dreif i 1.05 metr i wella’r sefyllfa.

“Rwy’n cydnabod fod hyn yn funud olaf, ond yr unig opsiwn arall yw anhrefn llwyr,” meddai Peter Barnes.

Dywedodd Mark Hopkins, Swyddog Priffyrdd Cyngor Blaenau Gwent, y byddai gostwng y waliau “mewn egwyddor” yn datrys y broblem.

Ond nes bod cynlluniau “o’i flaen” nid oedd Mr Hopkins eisiau “ymrwymo ei hun” ynghylch a fyddai’r cynnig yn dderbyniol ai peidio.

Cynnig newydd

Dywedodd y Cynghorydd John Hill: “Mae hwn yn achos cymhleth iawn, rydyn ni mewn sefyllfa lle mae angen i ni ddatrys hyn ac ni all mai’r ateb i hyn yw dymchwel y tai, mae’n rhaid i ni ganfod ffordd o ofalu am y bobl hyn.”

Gofynnodd y Cynghorydd Wayne Hodgins a fyddai modd gohirio’r cais er mwyn caniatáu i’r newidiadau ddigwydd.

“Rwy’n cynnig ein bod ni’n gohirio’r cais ac yn gwahodd yr asiant i ddod yn ôl gyda chynllun newydd a hefyd i gynnal trafodaeth gyda’r swyddogion perthnasol.”

Cefnogwyd y cynnig hwn gan gynghorwyr ar yr amod bod pob plaid yn “dod at ei gilydd a cheisio datrys pethau”.

Bydd y cais yn dychwelyd g beron y pwyllgor a bydd penderfyniad yn cael ei wneud maes o law.