Mae nifer achosion Covid-19 yn parhau i godi ar draws y Deyrnas Unedig, yn ôl ffigyrau newydd.

Yn ôl amcangyfrif gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS), roedd tua un o bob 210 o bobl wedi eu heintio yng Nghymru yn yr wythnos hyd at 17 Gorffennaf, sef y rhif uchaf ers 19 Chwefror.

Mae bron i dri chwarter miliwn o bobl yn Lloegr yn debygol o fod wedi dal Covid-19 yn yr un cyfnod, sydd tua un o bob 75 o bobl.

Ar ben hynny, mae cyfradd yr Alban wedi cynyddu i un o bob 90 o bobl, tra bod cyfradd Gogledd Iwerddon hefyd i fyny i un o bob 170 o bobl.

Er mai amcangyfrif yw’r ffigyrau gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol, maen nhw wedi eu seilio ar 529,983 o brofion sydd wedi eu cymryd ar draws gwledydd Prydain dros y chwe wythnos diwethaf.