Mae ffermwr llaeth ifanc o Geredigion wedi cael cymorth menter Cyswllt Ffermio i geisio gwneud penderfyniad ar uwchraddio ei gyfleusterau godro.
Bu Ieuan Evans draw i’r Almaen ac i fferm laeth Worthy Farm, lle cynhelir gŵyl Glastonbury, i ddysgu mwy am dechnoleg godro.
Mae yn amaethu yn fferm Rhiwarthen Isaf yng Nghapel Bangor, yn godro 800 o wartheg mewn dwy uned, ond maen ef a’i deulu yn anelu at ehangu’r nifer hwn.
Byddai hynny’n golygu bod rhaid uwchraddio’r cyfleusterau sydd yno’n barod, ac mae Ieuan yn credu y gallai godro robotig fod yn opsiwn.
Yn 2019, fe wnaeth Ieuan a ffermwyr llaeth eraill sydd yn yr un sefyllfa gais am fwrsari gan fenter Cyswllt Ffermio er mwyn ymchwilio mwy i’r dechnoleg sydd ar gael.
‘Angen i ni groesawu technoleg’
Mae Ieuan yn credu ei bod hi’n hen bryd i ffermwyr ystyried technoleg newydd sydd o gymorth iddyn nhw.
“Mae godro robotig wedi cymryd camau breision dros y 10 mlynedd diwethaf, felly nawr yw’r amser i ddechrau ystyried awtomeiddio neu rannol-awtomeiddio ein systemau godro a phorthi, er mwyn lleihau ein llwyth gwaith o ddydd i ddydd yn sylweddol,” meddai.
“Mae ffermio’n cael ei weld fel diwydiant traddodiadol a hen ffasiwn ond mae angen i ni groesawu technoleg er mwyn ein cynorthwyo i gynhyrchu bwyd mewn ffordd sy’n bodloni tueddiadau modern gyda chwsmeriaid mewn modd cynaliadwy.’’
Mae’n rhaid i deulu Ieuan hefyd ystyried uwchraddio wrth geisio cynyddu capasiti storio slyri.
“Rydym eisoes wedi cymryd camau i leihau effaith ein slyri ar yr amgylchedd drwy fuddsoddi mewn system wasgaru slyri drwy biben gyda chwistrellydd disg, ond mae mwy y gellir ei wneud,” meddai Ieuan.
“Rydym yn ceisio cynyddu ein capasiti storio slyri er mwyn sicrhau ei fod yn cael ei wasgaru pan fydd fwyaf buddiol i’r caeau, gyda llai o bosibilrwydd o drwytholchi.”
Ar daith ledled Ewrop
Wrth astudio opsiynau ar gyfer ei fferm, mae Ieuan wedi teithio i Wlad yr Haf yn Lloegr i ymweld â chanolfan datblygu cynnyrch llaeth, yn ogystal â fferm laeth Worthy Farm, lle cynhelir gŵyl Glastonbury.
Mae hefyd wedi teithio mor bell â’r Almaen i ymweld â fferm laeth sydd â fersiwn blaengar o’r parlwr godro robotig.
“Mae’n anodd credu heb weld drosoch eich hun,” meddai Ieuan.
“Roedd rhai o’r technolegau a welais yn ystod fy ymweliadau’n cael eu hystyried yn gymhleth ac yn systemau ar gyfer y dyfodol, ond ar ôl edrych yn fanylach, mae’n bosibl rhannu’r rhain yn systemau mwy syml gyda gwahanol rannau’n cwblhau gwahanol dasgau.
Dod i benderfyniad
Byddai’r gost o droi’r parlwr yn robotig yn “sylweddol”, sy’n golygu bod rhaid ystyried o ddifrif cyn buddsoddi, ond mae Ieuan yn credu y gallai dorri costau yn y dyfodol.
Mae’r data sy’n gallu cael ei gofnodi hefyd yn ffactor arall sy’n eu denu.
“Mae’r defnydd cynyddol o dechnoleg ar ffermydd llaeth yn caniatáu ffermwyr i fesur mwy o elfennau ac i gofnodi llawer iawn o ddata fel na welwyd ei debyg o’r blaen,” meddai.
“Os bydd y data’n cael ei ddadansoddi’n gywir gan y ffermwr/stocmon, bydd modd ei ddefnyddio fel adnodd gwerthfawr iawn a allai ganfod problemau hyd yn oed cyn iddynt godi.”
Wrth edrych yn ôl dros y profiad, mae Ieuan yn falch ei fod wedi dysgu cymaint am y maes.
“Mae’n bosibl trosglwyddo’r holl dechnegau, systemau a dulliau a ddefnyddir ar ffermydd eraill o ddydd i ddydd er mwyn newid y ffordd yr ydych chi’n rhedeg eich fferm, gallai arbed ychydig eiliadau, munudau neu bunnoedd bob dydd,” meddai.
“Mae gwybodaeth yn eich grymuso, ac mae ymweliadau fferm yn ffordd wych o drosglwyddo gwybodaeth.”