Mae cais cynllunio i greu safle Sispsiwn a Theithwyr yn Sir y Fflint wedi ei gymeradwyo gan y cyngor, er i rai cynghorwyr ddadlau yn ei erbyn.
Bydd y safle ar gyfer y gymuned Sispsiwn a Theithwyr ger pentref Ffynnongroyw, ac yn cynnwys uned i ddarparu cyfleusterau coginio, glanhau a thoiledau.
Cafodd y cais ei roi gerbron y cyngor gan Stephen Locke, aelod o gymuned Romani ac sy’n dymuno gweld safle priodol ar gyfer y gymuned Sipsiwn a Theithwyr.
Denodd y cynllun ddeg llythyr o wrthwynebiad yn sgil pryderon am effaith y safle ar gymeriad yr ardal a allai arwain at draffig ychwanegol.
‘Diwallu anghenion’
Cafodd y cynllun gefnogaeth gan bwyllgor cynllunio Cyngor Sir y Fflint, er i rai aelodau leisio pryderon.
Fe wnaeth swyddogion y cyngor gymeradwyo’r cais, gan ddweud fod ganddyn nhw ddyletswydd gyfreithiol i gwrdd ag anghenion y gymuned Sipsiwn a Theithwyr.
Ond fe wnaeth rhai cynghorwyr sir alw ar y cyngor i wrthod y cais neu i ohirio’r penderfyniad terfynol.
Dywedodd y Cynghorydd Patrick Heesom, sy’n cynrychioli Mostyn, ei fod yn pryderu ynghylch y safle gan alw ar y cyngor i ohirio’r penderfyniad.
“Rydyn ni yma yn benodol i drafod y defnydd tir,” meddai.
“Mae yna faterion ynglŷn ag os yw’r safle hwn yn briodol. Mae yn safle bregus iawn.”
‘Sefyllfa anodd’
Mae rhai cynghorwyr wedi newid eu meddyliau am y cais wedi i’r pwyllgor cynllunio ddweud y gall y safle gael ei adeiladu yng nghefn gwlad y sir.
Yn ôl Llywodraeth Cymru mae hawl gan gynghorau i ystyried safleoedd Sipsiwn a Theithwyr yng nghefn gwlad os oes diffyg lleoliadau addas mewn mannau eraill.
Fe ddywedodd yr aelod Cabinet dros Gynllunio, Chris Bithell, fod aelodau’r pwyllgor wedi cael eu rhoi mewn sefyllfa anodd gan y ceisiadau.
“Does dim dewis gyda ni. Nid oes dim mwy y gallwn ni ei wneud ond cymeradwyo’r cais, os ydyn yn cytuno neu’n anghytuno.
“Mae gan y gymuned Sipsiwn a Theithwyr hawliau arbennig ar draul gweddill y cyhoedd.”