Mae Prif Gwnstabl Heddlu Swydd Northampton wedi collfarnu’r penderfyniad gan Lywodraeth Prydain i rewi cyflogau swyddogion fel un “cwbl annerbyniol”.

Mewn datganiad ar ei gyfrif Twitter nos Iau (22 Gorffennaf), dywedodd Nick Adderley: “Mae’r cyhoeddiad heddiw am gynnydd cyflog o 0% i swyddogion yr heddlu yn sarhad ac yn gwbl annerbyniol.

“Mae hyn yn dangos diffyg ymwybyddiaeth, gwerthfawrogiad a chydnabyddiaeth lwyr o’r gwaith anhygoel y mae swyddogion wedi’i wneud drwy gydol y pandemig hwn.

“Dros y 18 mis diwethaf rwyf wedi gweld swyddogion yn cael eu taro, eu trywanu, eu saethu, eu herlyn a’u gwawdio wrth geisio gweithredu deddfwriaeth ddryslyd, frysiog ac amwys, er mwyn diogelu’r cyhoedd a’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol, dim ond i gael eu hanwybyddu pan ddaw’n fater o setliad cyflog.”

Daw hyn ar ôl i Ffederasiwn Heddlu Cymru a Lloegr (PFEW) ddatgan pleidlais o ddiffyg hyder yn yr Ysgrifennydd Cartref Priti Patel.

“Rydym yn aml yn clywed yr Ysgrifennydd Cartref yn canmol swyddogion yr heddlu ond mae ein haelodau yn gandryll gyda’r Llywodraeth hwn,” meddai cadeirydd cenedlaethol Ffederasiwn Heddlu Cymru a Lloegr, John Apter.

“Fel y sefydliad sy’n cynrychioli mwy na 130,000 o heddweision, gallaf ddweud yn hollol bendant: nid oes gennym hyder yn yr Ysgrifennydd Cartref presennol.”

Wrth gyhoeddi’r penderfyniad i rewi cyflogau mewn datganiad gweinidogol ysgrifenedig, dywedodd Priti Patel ei bod am sicrhau tegwch rhwng twf cyflogau’r sector cyhoeddus a’r sector preifat, gan fod pandemig Covid-19 wedi effeithio’n sylweddol ar y sector preifat.

Ffederasiwn Heddlu Cymru a Lloegr yn cefnogi pleidlais o ddiffyg hyder yn yr Ysgrifennydd Cartref Priti Patel

“Fel y sefydliad sy’n cynrychioli mwy na 130,000 o heddweision gallaf ddweud yn hollol bendant: nid oes gennym hyder yn yr Ysgrifennydd Cartref”