Mae bachgen 16 oed wedi marw wrth geisio nofio yn yr Afon Dyfrdwy yng Nghaer.
Daw hyn wrth i ragolygon awgrymu bod y tywydd poeth yn mynd i gael ei ddisodli gan law a stormydd, gyda rhybudd glaw melyn mewn grym mewn rhai ardaloedd dros y penwythnos.
Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu Swydd Gaer fod yr hogyn wedi mynd ar goll tua 2.30 bnawn Iau (22 Gorffennaf) ar ôl nofio yn yr Afon Dyfrdwy yng Nghaer.
Yn dilyn chwilio helaeth, daeth yr heddlu o hyd i gorff ychydig cyn wyth y nos.
Dywedodd yr Uwch-arolygydd Myra Ball: “Yn anffodus, dyma’r ail farwolaeth mewn afon a welsom yn y sir yr wythnos hon.
“Mae’n ymddangos bod hon yn ddamwain drasig arall ac mae ein meddyliau gyda theulu’r bachgen ar yr adeg anodd hwn.”
Ddydd Iau, dywedodd y Royal Life Saving Society UK (RLSS UK) ei fod yn ymwybodol o 17 marwolaeth ddamweiniol yn y dŵr rhwng 17 Gorffennaf a 20 Gorffennaf, ac anogodd nofwyr i gymryd gofal.
Roedd yr holl farwolaethau wedi digwydd yn Lloegr, ar wahân i un yng Ngogledd Iwerddon.
“Er ein bod yn cydnabod y temtasiwn i oeri yn nyfr-ffyrdd hardd y Deyrnas Unedig, maen nhw’n cuddio peryglon sy’n cymryd bywydau bob blwyddyn ac rydym yn annog y cyhoedd i fod yn ofalus wrth fynd i mewn i’r dŵr, gan ddod i arfer â thymheredd y dŵr cyn neidio i mewn,” meddai cyfarwyddwr elusen RLSS UK, Lee Heard.
“Gall y gwahaniaeth rhwng tymheredd yr aer a thymheredd y dŵr gymryd eich anadl; gelwir hyn yn sioc dŵr oer.
“Mae’n ddistaw, yn anweledig ac yn farwol.”
Rhybudd tywydd
Mae’r Swyddfa Dywydd yn rhagweld y bydd cawodydd trwm a mân yn ystod y penwythnos, yn enwedig ddydd Sul (25 Gorffennaf).
Mae yno hefyd rybuddiodd am lifogydd, amodau teithio gwael a mellt.
Dywedodd Dirprwy Brif Feteorolegydd Gweithredol y Swyddfa Dywydd, David Oliver: “Daw’r rhybudd glaw melyn hwn wrth i’r tymheredd ostwng mewn sawl ardal dros y penwythnos.”