Mae Aelod Seneddol Plaid Cymru wedi pwyso ar Ysgrifennydd Gwladol Cymru i sicrhau cyllid teg i S4C yn dilyn toriadau o 36% ers 2010.

Daw hyn ar ddiwedd wythnos pan mae’r Sianel Gymraeg wedi gallu brolio cynnydd yn y nifer sy’n gwylio’r arlwy.

Dywedodd Liz Saville Roberts, Arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan wrth Simon Hart ei bod am weld “£10 miliwn y flwyddyn o fuddsoddiad ychwanegol” i’r sianel er mwyn iddi barhau i fod yn “gystadleuol” ac iddi gael ei thrin yn “gyfwerth” â’r BBC.

Yn 2020-21, fe dderbyniodd y sianel £74.5m o ffi drwydded y BBC a £21.85m gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig.

Ond bydd yr holl arian yn dod o’r ffi drwydded yn y flwyddyn ariannol sydd i ddod, wrth i Lywodraeth y Deyrnas Unedig roi’r gorau i gyfrannu at y sianel.

“Mae sianel deledu Cymraeg S4C wedi gweld toriad termau real o 36% ers 2010,” meddai Liz Saville Roberts.

“Mae S4C dim ond yn gofyn am £10miliwn y flwyddyn yn ychwanegol, sy’n fuddsoddiad cymedrol… i aros yn gystadleuol gyda’r BBC, sydd eisoes yn freintiedig, ac i gyrraedd cynulleidfaoedd ar lwyfannau digidol newydd.

“A fydd yr Ysgrifennydd Gwladol yn gweithio gyda’r Adran Ddigidol, Diwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon i sicrhau buddsoddiad ychwanegol ar gyfer S4C fel bod y sianel yn cael ei thrin yn gyfwerth â’r BBC a’i bod yn parhau i fod yn hyfyw yn y dyfodol?”

‘Cydnabod achos rymus’

Fe ddywedodd Simon Hart ei fod yn cydnabod pwysigrwydd y mater gan bwysleisio “arwyddocâd S4C gan fod y pencadlys [Yr Egin] yn ei etholaeth”, sef Gorllewin Caerfyrddin a De Penfro.

Fe ychwanegodd: “Mae gen i berthynas gynnes iawn gyda’r holl unigolion sydd wedi bod yn cyflwyno eu hachos yn rymus wrth Aelodau ledled y Tŷ yn ystod yr ychydig fisoedd diwethaf.

“Gallaf gadarnhau iddi fod Swyddfa Cymru, wrth gwrs, wedi gwneud rhai ceisiadau cryf iawn i’r Adran Ddigidol, Diwylliant, y Cyfryngau Chwaraeon.

“Nid yw’r penderfyniad wedi’i wneud eto… rydyn ni’n cydnabod pwysigrwydd hyn ac rydyn ni am ddod i gasgliad cyflym a chywir.”

Yn ôl Simon Hart mae disgwyl i benderfyniad gael ei wneud cyn diwedd mis Gorffennaf.