Mae’r heddlu wedi lansio ymchwiliad yn dilyn honiadau bod tri dyn ifanc wedi dwyn lori sbwriel cyngor a’i gyrru fewn i wal.

Honnwyd bod pobl ifanc wedi mynd â’r cerbyd ar ôl i’r criw sbwriel barcio am seibiant, a tharo wal yn Llansawel ar fore dydd Iau 22 Gorffennaf.

Dywedodd llefarydd yr heddlu: “Mae dyn 17 oed wedi cael ei arestio ar amheuaeth o ddwyn cerbyd a chreu difrod i gerbyd ac mae wedi cael ei ryddhau tra’n aros am ymchwiliad pellach.

“Credir bod dau arall wedi ffoi o’r ardal ar droed.  Mae ymchwiliadau’n parhau i ganfod pwy ydyn nhw.”

Bu trigolion yn gwylio’r sefyllfa wrth i weithwyr brys ddod yno, a gweld bod y lori ar ei hochr gyda sbwriel o’i chwmpas.

Dywedodd Julie Evans, sy’n byw ger lleoliad y ddamwain, ei bod hi gartref pan glywodd “bang enfawr”.

“Roeddwn i’n meddwl bod tŷ wedi ffrwydro. Roeddwn i’n gwybod bod rhywbeth drwg wedi digwydd.”

Dywedodd ei bod yn gweld dynion ifanc a oedd yn ymddangos fel pe baen nhw wedi eu hanafu yn mynd allan o’r lori ac yna’n ffoi.

Dywedodd llefarydd ar ran y cyngor lleol: “Mae Cyngor Castell-nedd Port Talbot yn cynorthwyo Heddlu De Cymru, Brigâd Dân Canolbarth a Gorllewin Cymru a’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch wrth ymchwilio i ddamwain yn ymwneud ag un o’i gerbydau sbwriel a ddigwyddodd ar ôl i’r criw ei barcio i gymryd seibiant.

“Yn fuan ar ôl gadael y cerbyd fore Iau, 22 Gorffennaf, cafodd ei yrru ar hyd Heol Brynhyfryd, Llansawel cyn taro wal… Deellir bod tri o bobl ifanc wedi cymryd rhan yn y digwyddiad ac mae ymchwiliad Heddlu De Cymru i’r mater yn parhau.”