Mae adroddiadau bod dyn 52 oed wedi marw mewn campfa yng Nghasnewydd yn dilyn trawiad y galon.

Yn ôl y rhai oedd yn hyfforddi yng nghampfa ‘Pure Gym’ ar y pryd, bu farw’r dyn yn fuan ar ôl dod oddi ar beiriant a chwyno ei fod yn teimlo’n sâl tua 11:30 nos Fercher (21 Gorffennaf).

Yna aeth y dyn i’r ystafell ymolchi, a phenderfynodd hyfforddwr arall ei ddilyn.

“Roedd gen i deimlad bod rhywbeth o’i le pan welais ef yn mynd i’r ystafell ymolchi,” meddai’r dyn, oedd ddim am gael ei enwi wrth Wales Online.

“Wrth i mi ddod allan o’r toiled roedd ar y llawr ac yn dal i ailadrodd bod ganddo boenau yn ei frest ac nad oedd yn gallu anadlu.

“Fe wnaethon ni ei roi yn y safle cywir a galw’r gwasanaethau brys. Ond yna collodd ymwybyddiaeth ac roeddem yn gwybod pa mor ddifrifol oedd y sefyllfa.

“Rhedodd rhywun i gael y diffibriliwr.”

Ond er gwaethaf ymdrechion gorau’r bobol o’i gwmpas, bu farw’r dyn yn y fan a’r lle.

Mae’r Gwasanaeth Ambiwlans yn cynnal ymchwiliad oherwydd bod yr ambiwlans wedi cymryd 45 munud i gyrraedd y gampfa.

Dywedodd llefarydd ar ran Gwasanaeth Ambiwlans Cymru: “Cawsom ein galw am 11.41pm neithiwr, nos Fercher 21 Gorffennaf, i’r Pure Gym yng nghanol dinas Casnewydd i adroddiadau am argyfwng meddygol.

“Anfonom ddau gerbyd ymateb cyflym, un ambiwlans brys a’n tîm adalw a throsglwyddo meddygol brys.

“Does dim manylion pellach ar gael.”