Mae Gŵyl y Dyn Gwyrdd 2021 wedi dechrau’n swyddogol heddiw (19 Awst), ac mae’n teimlo fel moment “haul ar fryn”, yn ôl rheolwr label recordiau Libertino.

Dyma’r tro cyntaf i’r ŵyl ym Mannau Brycheiniog gael ei chynnal ers 2019 yn dilyn y pandemig.

Mae sawl enw cyfarwydd yn ymddangos ar y lein-yp eleni, gan gynnwys Gruff Rhys, Gwenno Saunders a Charlotte Church.

Mae nifer o artistiaid o’r sîn gerddoriaeth Gymraeg hefyd yn chwarae yno’r wythnos hon, gyda rhagarweiniad i’r ŵyl swyddogol yn digwydd ers dydd Llun, Awst 16.

‘Teimlo fel dechrau newydd’

Roedd label recordiau Libertino yn gyfrifol am gydlynu llwyfan y Settlement yng Ngŵyl y Dyn Gwyrdd eleni.

Mae artistiaid fel Papur Wal, Kim Hon ac Eädyth wedi chwarae ar y llwyfan hwnnw yn ystod yr wythnos.

Bydd amrywiaeth o artistiaid eraill Libertino fel N’Famady Kouyate a Keys yn chwarae ar lwyfannau mwyaf yr ŵyl dros y penwythnos.

Dywedodd Gruff Owen, rheolwr y label ei fod yn arwydd gwych bod cymaint o sylw i artistiaid Cymraeg

“Y Dyn Gwyrdd yw’r ŵyl fwyaf yng Nghymru, ac un o’r mwyaf pwysig ledled Prydain,” meddai wrth golwg360.

“Mae cael llwyfan yna’n dangos cymeradwyaeth i’r label, ac i beth sy’n digwydd yng Nghymru ar hyn o bryd.

“Mae’n dangos bod ein hartistiaid ni yn cymharu efo artistiaid rhyngwladol.

“Roedd cael llwyfan Settlement yn dangos bod rhywbeth cyffrous yn digwydd yng Nghymru ar hyn o bryd, a gobeithio y bydd artistiaid yn mynd ymlaen i lwyfannau mwy flwyddyn nesaf.

“Dydy’r diwydiant tu allan i Gymru’n methu anwybyddu beth sy’n mynd ymlaen rhagor!”

N’Famady Kouyate yn chwarae yn yr ŵyl eleni

Effaith y pandemig

Mae’r diwydiant cerddoriaeth yn fyd-eang wedi gweld effeithiau enbyd oherwydd y pandemig, ond mae Gruff yn credu bod Libertino wedi dod drwyddi’n gymharol ffodus.

“Rydyn ni wedi bod yn eithaf lwcus, achos bod lot o artistiaid wedi recordio pethau o flaen llaw,” meddai.

“Wrth gwrs, mae e wedi golygu bod dim teithio wedi digwydd, ond rydyn ni wedi bod yn eithaf hyblyg a darganfod ffyrdd gwahanol i hyrwyddo artistiaid.

“Rydyn ni wedi defnyddio’r adeg yma fel cyfnod i fod yn bositif, achos rydyn ni wedi bod mor brysur fel label, wnaeth hwn roi mwy o amser i ni baratoi albyms.

“Gobeithio dros y flwyddyn nesaf y byddwn ni’n gweld ffrwyth y gwaith yna.”

Y dorf yn llwyfan y Settlement

‘Teimlo fel dechrau newydd’

Dywed Gruff Owen fod y cyfle i ddangos cerddoriaeth byw unwaith eto yn “hynod bositif”.

“Alla i ddim ei roi e mewn geiriau pa mor bwysig yw e,” meddai.

“Mae e mor bositif i ran fwyaf o artistiaid ac yn teimlo fel dechrau newydd mewn ffordd.

“Mae’r Bannau’n llawn cerddoriaeth a dawns unwaith eto, ac mae llawer o artistiaid yn teimlo fel bod haul eto ar fryn – felly mae’n brofiad positif iawn.

“Rydw i wrth fy modd bod teithio a gigiau’n dechrau eto, achos mae hynny’n rhan hanfodol o fywyd label ac artist – does dim byd yn curo’r cysylltiad gyda thorf o’ch blaen.

“Mae cael llwyfan yn y Dyn Gwyrdd yn rhywbeth positif ar ddiwedd hyn i gyd.”