Mae Bangor wedi lansio cais i ddod yn Brifddinas Diwylliant y Deyrnas Unedig 2025.

Mae newid yn rheolau’r gystadleuaeth yn golygu bod ardaloedd, dinasoedd, neu gymunedau yn gallu ymgeisio am yr anrhydedd pedair blynedd o hyd, sydd ar hyn o bryd yn nwylo Coventry.

Caiff y cais ei arwain gan Gyngor Gwynedd mewn partneriaeth â Phrifysgol Bangor, Cyngor Dinas Bangor ac eraill.

Mae’r cais yn cwmpasu’r ddinas ei hun yn ogystal â Thirwedd Llechi dynodedig Safle Treftadaeth y Byd gogledd-orllewin Cymru ac ardaloedd ehangach Arfon ac Ynys Môn.

Mae Conwy eisoes yn paratoi cais, a gafodd ei gymeradwyo gan gynghorwyr y sir ar 14 Gorffennaf.

“Dathlu ein Cymreictod”

“Rwy’n falch iawn o’r hyn mae’r cais hwn yn ei gynnig ac mae’n adeiladu ar y berthynas waith gref sydd gennym â Phrifysgol Bangor a’r phartneriaid allweddol eraill yn y gymuned a’r ardal ehangach,” meddai Arweinydd Cyngor Gwynedd, y Cynghorydd Dyfrig Siencyn.

“Rydyn ni am i Fangor berfformio fel dinas fyd-eang, gynhwysol a llewyrchus trwy wneud yn fawr o’n treftadaeth, iaith a diwylliant cyfoethog ac unigryw i sicrhau dyfodol arloesol a llewyrchus i gymunedau a busnesau dinas Bangor a gogledd-orllewin Cymru.

“Rydyn ni eisiau i bobl o’r ardal, y Deyrnas Unedig a’r byd deimlo eu bod nhw am ddod ar daith i Fangor, i deimlo bod croeso iddyn nhw yn y ddinas a’u bod yn deall, gwerthfawrogi a dathlu ein hardal anhygoel ac unigryw.

“Mae ffocws trefol iawn wedi bod i Ddinasoedd Diwylliant blaenorol, a thra mai Bangor yw’r prif ganolfan ddinesig yn y rhanbarth, credwn y gall ein cais bontio Bangor drefol a’r ardal wledig gyfagos.

“Bydd y cais hwn yn dathlu ein Cymreictod, ein gwahanol ddiwylliannau a’n cysylltiadau â dinasoedd eraill y Deyrnas Unedig a’r byd.

“Ble arall all frolio eu bod wedi bod yn do i’r chwyldro diwydiannol ac yn benodol wedi toi trefi, dinasoedd a phentrefi ledled y Deyrnas Unedig, y Gymanwlad a’r byd?”

‘Haeddiannol’

Ychwanegodd Maer Bangor, y Cynghorydd Owen Hurcum: “Mae diwylliant yn siarad drosto’i hun ym Mangor, ni yw’r ddinas hynaf yng Nghymru, mae gan ein Cadeirlan y sylfeini hynaf o unrhyw un sy’n dal mewn defnyddio, mae gennym y môr, y mynyddoedd, a phorthladd anfonodd lechi ledled y byd.

“Yn wir, mae’r natur fydol honno yma yn ein dinas o hyd.

“Tra ein bod yn falch o’r ddinas gyda’r gyfran uchaf o siaradwyr Cymraeg yn y byd, diolch i’n prifysgol fyd-eang yr ydym wedi’i chael ers yr 1880au rydym hefyd yn gartref i gannoedd yn fwy o ieithoedd a diwylliannau sy’n gwneud Bangor yn wirioneddol y ddinas amlddiwylliannol yr ydym ac yn haeddiannol iawn o’r teitl hwn.”

Ymgais Conwy i fod yn Ddinas Diwylliant y Deyrnas Unedig gam yn nes

Jez Hemming, Gohebydd Democratiaeth Leol a Gwern ab Arwel

Pe bai’r cais yn llwyddiannus, byddai’r sir yn dal y teitl rhwng 2025 a 2029