Mae ymgais i wneud sir Conwy yn Ddinas Diwylliant y Deyrnas Unedig wedi symud gam ymlaen ar ôl i gabinet y cyngor gymeradwyo’r cais “brys”.
Conwy fydd y dref “flaenllaw” ym mynegiant o ddiddordeb y cyngor yn y cynllun a fydd yn dechrau yn 2025.
Mae newid yn rheolau’r gystadleuaeth yn golygu bod ardaloedd, dinasoedd, neu gymunedau yn gallu ymgeisio am yr anrhydedd pedair blynedd, sydd ar hyn o bryd yn nwylo Coventry.
Gofynnwyd i gynghorwyr gymeradwyo’r cais ddydd Mawrth, a hwnnw’n gais “brys” oherwydd amserlen fer y cyfnod ymgeisio.
‘Llwyfan y byd’
Roedd adroddiad, a drafodwyd gan aelodau, yn dweud mai’r weledigaeth oedd rhoi atyniadau’r sir ar ‘lwyfan y byd’.
“Bydd Conwy 2025 yn cyd-gynhyrchu rhaglen ddiwylliannol drawiadol a blaengar gyda’n cymunedau,” meddai’r adroddiad.
“Byddwn yn defnyddio ysbryd chwareus ac anturus i gysylltu â phawb sy’n byw, gweithio, neu’n ymweld â’r ardal gyda grym trawsnewidiol diwylliant, ac i ddathlu Conwy ar lwyfan y byd.”
Bydd y cais yn defnyddio holl asedau hanesyddol a chyfoes y sir er mwyn denu’r panel ymgynghorol arbenigol, sy’n gorfod dewis yr ymgeisydd llwyddiannus.
Mae gofyn i’r ymgeiswyr “ddangos gweledigaeth sy’n defnyddio diwylliant i drawsnewid lle drwy adfywiad cymdeithasol, diwylliannol ac economaidd, sy’n gwneud yr ardal yn fwy atyniadol i fyw, gweithio, ymweld a buddsoddi ynddi.”
Trawsnewid twristiaeth
“Mae’n rhaid inni ennill drwy ddangos y gwahaniaeth wneith yr anrhydedd i’r holl ardal,” dywedodd arweinydd Cyngor Conwy, Charlie McCoubrey.
“Rydyn ni’n edrych i drawsnewid twristiaeth i raddau – rydyn ni eisiau ei wneud yn brofiad sy’n parhau trwy gydol y flwyddyn, ac fel bod yna yrfaoedd llewyrchus yn y sector.”
“Mewn rhai cyrchfannau gwyliau, mae ’na bwysau ar wasanaethau lleol ac ar drigolion, felly rydyn ni eisiau cydbwyso hynny drwy gydol y flwyddyn a drwy gydol y sir.”
Y Gymraeg yn rhan arwyddocaol
Roedd McCoubrey am i’r Gymraeg fod yn rhan arwyddocaol o’r cais hefyd.
“Mae’n un o’r ieithoedd hynaf yn Ewrop, felly mae’n storfa anferth i hanes a diwylliant ond ar yr un pryd yn iaith fodern a bywiog,” meddai.
O wneud cais, byddai penderfyniad yn cael ei wneud fwy na thebyg cyn diwedd y flwyddyn, gyda Bradford, Cernyw a Southampton ymysg y rhai eraill sydd wedi ymgeisio.