Mae’r actores Buddug Williams, oedd yn fwyaf adnabyddus am ei rôl yn Pobol y Cwm, wedi marw yn 88 oed.

Bu’n chwarae rhan Anti Marian, a oedd yn wraig i Bob Rees ac yn fodryb i Denzil Rees, nes 2016.

Fe ymddangosodd yn y gyfres fel cymeriad arall ar ddechrau’r gyfres yn 1974, gan bortreadu Bet Harries – mam Wayne, Sabrina a Reg.

Roedd hi’n enedigol o Gefneithin yng Nghwm Gwendraeth ac wedi hyfforddi fel athrawes yng Ngholeg y Barri, aeth yn ei blaen i ddysgu yn Birmingham am gyfnod byr yn y 50au.

Wedi cyfnod yn Birmingham, dychwelodd i ddysgu yn Sir Gâr, cyn dechrau ei gyrfa fel actores.

Yn ystod ei chyfnod yn Birmingham, roedd hi’n rhan o The Welsh Centre Amateur Drama Society, a bu’n perfformio gyda chwmnïau lleol yng Nghwm Gwendraeth.

Ynghyd â pherfformio ar lwyfan, ac ar Pobol y Cwm, ymddangosodd Buddug Williams mewn ffilmiau megis Twin Town a Very Annie Mary.

Mae hi’n gadael mab, Rhodri. Bu Elwyn, ei diweddar ŵr, farw yn 2011.

“Lot o sbort”

Dywedodd Gwyn Elfyn, a oedd yn chwarae rhan ei nai Denzil ar Pobol yn Cwm, wrth Newyddion S4C ei fod e’n gyfarwydd iawn â Buddug ar hyd y blynyddoedd.

“Y gwir yw, roedd hi wrth ei bodd, roedd hi wrth ei bodd yn chwarae’r cymeriad, oedd hi wrth ei bodd yn cael ei hadnabod fel Anti Marian, roedd hi’n mwynhau e,” meddai wrth gofio am eu cyfnod yn cydweithio.

“Roedd hi’n gymeriad ei hunan, roedd hi’n berson hapus i weithio gyda, gaethon ni lot o sbort.

“Roedden ni’n cael lot o sbort, roedd hi wastad yn barod i gael sbort.

“Ond roedd hi hefyd yn cymryd e o ddifri, bydde hi’n trafaelu lan i Gaerdydd gyda fi yn y car a fydden ni’n gorfod mynd dros ein llinellau.

“Erbyn y diwedd, ro’n i’n gwybod ei llinellau hi a fy llinellau i. Roedd hi wrth ei bodd ein bod ni wedi gwneud hwnna yn y car, roedd hi’n teimlo’n hapusach, teimlo’n saffach dw i’n credu.

“Gaethon ni amser da iawn â dweud y gwir a sawl golygfa, sawl blwyddyn hapus iawn.”