Mae angen gweithredu ar frys i gwtogi’r amser mae plant a phobol ifanc yn gorfod aros am gefnogaeth iechyd meddwl, meddai’r Ceidwadwyr.
Dangosa ystadegau newydd fod bron i ddau draean o gleifion dros Gymru yn aros mwy na mis am eu hapwyntiad cyntaf efo’r Gwasanaethau Iechyd Meddwl Arbenigol i Blant a Phobol Ifanc hyd at fis Gorffennaf, gyda’r sefyllfa’n waeth nag erioed.
Mae nifer y plant a phobol ifanc sy’n disgwyl am fwy na phedair wythnos am apwyntiad wedi cynyddu 54% mewn mis, o 280 i 482.
Roedd un person ifanc ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro wedi bod yn aros mwy na 37 wythnos am apwyntiad cyntaf, ac mae un claf ym Mhowys wedi bod yn aros mwy na 40 wythnos.
Roedd 245 o blant a phobol ifanc yn aros ers mwy nag wyth wythnos am apwyntiad ym mis Gorffennaf, gyda 167 ohonyn nhw ym Mwrdd Iechyd Caerdydd a’r Fro.
“Cywilyddus”
“Mae’r ystadegau diweddaraf hyn yn gywilyddus ac yn amlinellu’r angen am weithredu brys i fynd i’r afael â’r sefyllfa sobor hon,” meddai Gweinidog Iechyd Meddwl y Ceidwadwyr Cymreig, Jamie Evans AoS.
“Mae rhestrau aros ar gyfer amryw o wasanaethau iechyd wedi bod yn tyfu’n sydyn yn y misoedd diwethaf gyda thua 600,000 o bobol dros Gymru yn disgwyl am driniaeth, ac mae hynny, yn syml, yn annerbyniol.
“Mae angen i weinidogion Llafur ddangos eu bod nhw o ddifri am fynd i’r afael ag iechyd meddwl drwy roi’r arian a chefnogaeth sydd eu hangen ar fyrddau iechyd i gwtogi’r nifer o gleifion sy’n disgwyl i dderbyn yr help y maen nhw ei hangen.
“Dw i wedi dweud o’r blaen, ac mi wnâi barhau i ddweud hyn nes bod Llywodraeth Lafur Cymru yn gwrando – rydyn ni angen sefydlu rhwydwaith o ganolfannau argyfwng iechyd meddwl sy’n agored drwy’r dydd a nos i bobol gael mynediad atyn nhw mewn argyfyngau iechyd meddwl, ac mae angen i weinidogion ystyried cyflwyno Deddf Iechyd Meddwl newydd i gymryd lle deddfwriaeth sydd wedi dyddio.
“Mae’n ofnadwy bod plant a phobol ifanc yn gorfod aros mor hir i gael yr help maen nhw’n ei haeddu – ac mae angen i hynny newid ar unwaith.”