Mae Plaid Cymru yn galw am gynllun ôl-Covid i leihau’r nifer sydd ar restrau aros am driniaethau.

Daw hyn yn dilyn y cyhoeddiad bod rhestrau aros y Gwasanaeth Iechyd yn hirach nag erioed fis diwethaf.

Mae’n debyg bod tua un ym mhob pump o boblogaeth Cymru – tua 625,000 o bobol – yn aros am driniaethau nad ydyn nhw’n rhai brys.

Cynllun tymor hir

Roedd tua un ym mhob deg wedi gorfod aros dros bedair awr am driniaeth mewn adrannau brys hefyd.

Dywed Rhun ap Iorwerth, llefarydd iechyd Plaid Cymru, fod yr ystadegau’n rhoi “darlun llwm” o ba mor “eiddil” yw’r Gwasanaeth Iechyd ar hyn o bryd.

“Roedd ein Gwasanaeth Iechyd eisoes yn dioddef o danfuddsoddi a chamreoli cyson cyn y pandemig,” meddai.

“Nawr, mae byrddau iechyd a staff iechyd a gofal ledled Cymru o dan bwysau ychwanegol oherwydd Covid.

“Mae targedau’n parhau i gael eu methu – erbyn hyn, mae’r amseroedd aros yn waeth nag erioed, ac yn gefndir i’r ffigyrau hyn, mae cleifion mewn poen neu o dan straen annioddefol yn aros am driniaeth neu ddiagnosis.

“Er bod croeso i unrhyw arian ychwanegol, ychydig iawn o eglurder sydd ar sut y bydd y £551m yn cael ei ddefnyddio.

“Law yn llaw ag unrhyw gynllun tymor byr i ddelio â’r sefyllfa, mae angen i ni weld gan y Llywodraeth gynllun ôl-Covid tymor hir i fynd i’r afael ag amseroedd aros hirfaith.

“Rhaid blaenoriaethu gwasanaethau fel diagnostig a thriniaeth canser, a mynd ati i fuddsoddi yn arloesol yn ein Gwasanaeth Iechyd.”

Rhestrau aros y Gwasanaeth Iechyd yn hirach nag erioed fis diwethaf

Ystadegau newydd yn dangos bod amseroedd aros mewn adrannau brys yn waeth nag erioed hefyd