Mae dynes 31 oed wedi bod gerbron llys wedi’i chyhuddo o lofruddio’i mab dwy oed ym Mhen-y-bont ar Ogwr.

Cafwyd hyd i gorff Reid Steele mewn eiddo yr wythnos ddiwethaf, ac fe fu farw yn Ysbyty Athrofaol Caerdydd yn ddiweddarach.

Aeth Natalie Steele o Broadlands yn ardal Pen-y-bont ar Ogwr gerbron Llys y Goron Caerdydd trwy gyswllt fideo.

Mae hi wedi’i chadw yn y ddalfa tan y gwrandawiad nesaf ar Dachwedd 26, a bydd adroddiadau seiciatryddol yn cael eu paratoi yn y cyfamser.

Reid Steele

Cyhuddo dynes o lofruddio bachgen dwy oed ym Mhen-y-bont ar Ogwr

Bydd Natalie Steele, 31, o ystad Broadlands yn y dref yn ymddangos o flaen Llys Ynadon Caerdydd heddiw (18 Awst) ar gyhuddiad o lofruddio Reid Steele