Mae prinder mewn cyflenwadau cyw iâr yn achosi problemau i rai o fwytai Cymru.

Rhybuddia Cyngor Cig Dofednod Prydain fod diffyg staff ar draws y gadwyn gyflenwi’n golygu bod cynnyrch cyw iâr yn brin.

Mae cwmnïau fel Nando’s wedi gorfod cau degau o’u bwytai – gan gynnwys yng Nghaerdydd – tra bod KFC a llawer o fwytai eraill wedi tynnu eitemau o’u bwydlenni.

Dywed y Cyngor hefyd eu bod yn rhagweld y bydd prinder mewn tyrcwn adeg y Nadolig, gyda gostyngiad o 20% yn y cynnyrch.

Argyfwng yn ‘fater Brexit’

Mae Richard Griffiths, prif weithredwr Cyngor Cig Dofednod Prydain, yn dweud bod cyfyngu ar weithwyr o dramor wedi “peryglu busnesau bwyd”, yn ogystal â gostwng safon cynnyrch.

“Pan does gennych chi ddim pobol, mae gennych chi broblem,” meddai.

“Mae hyn yn rhywbeth rydyn ni’n ei weld ar draws y gadwyn gyflenwi gyfan, ac mae’r argyfwng llafur yn fater Brexit.

“Mae’r nifer brawychus o fylchau ond yn cynyddu oherwydd bod y llywodraeth yn gweithredu’n gyson yn erbyn buddion cynhyrchwyr bwyd o Brydain.”

Ychwanega Richard Griffiths fod yna wagleoedd o hyd at 16% yn y sector dofednod ar hyn o bryd – sector sy’n cynhyrchu hanner yr holl gig sy’n cael ei fwyta ym Mhrydain.