Roedd rhestrau aros am driniaeth gan y Gwasanaeth Iechyd yn hirach nag erioed fis diwethaf, ac amseroedd aros mewn adrannau brys ar eu gwaethaf.
Mae tua un ymhob pump o boblogaeth Cymru (625,000) yn aros am driniaethau, tra bod tri ymhob deg wedi gorfod aros yn hirach na phedair awr mewn adrannau brys.
Cafodd 70% o gleifion adrannau brys eu gweld mewn pedair awr yng Nghymru, o gymharu â 78% yn Lloegr.
Mae’r ystadegau wedi codi pryderon ymysg y Ceidwadwyr sy’n ofni y bydd hi’n cymryd blynyddoedd i ddychwelyd i lefel dderbyniol.
Ystadegau
Daeth hi i’r amlwg fod un ymhob pedwar claf yn aros dros flwyddyn am driniaeth, o gymharu ag un ymhob 18 yn Lloegr.
Ar gyfer y triniaethau hynny, mae’n rhaid i bobol yng Nghymru aros mwy na dwywaith yr amser (21.6 wythnos) o gymharu â chleifion yn Lloegr syn aros 10.4 wythnos ar gyfartaledd.
Dangosodd ystadegau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol ar gyfer mis Gorffennaf eleni mai Ysbyty Prifysgol y Faenor yng Nghwmbrân sydd â’r record waethaf ar gyfer yr adrannau brys – gyda dim ond 44% o gleifion yn cael eu gweld o fewn pedair awr.
Mae nifer y bobol sy’n gorfod aros 12 awr i gael eu gweld mewn adrannau brys wedi codi hefyd – 7,084 ym mis Gorffennaf o gymharu â 5,949 ym mis Mehefin.
Mae pobol dros 85 oed yn aros chwe awr ar gyfartaledd i gael eu gweld, ac mae’r ymchwil yn dangos bod triniaethau canser dal yn cael eu methu gyda dim ond 67% yn cael eu trin o fewn 62 diwrnod.
Mae’r ystadegau ar gyfer ambiwlansys yn dangos bod 58% o ymatebion brys i alwadau lle’r oedd bywyd mewn perygl wedi cyrraedd o fewn y targed o wyth munud – gostyngiad o’r 61% ym Mehefin.
Dyma’r deuddegfed mis o’r bron i’r targed o gyrraedd 65% o achosion galwadau coch mewn wyth munud gael ei fethu.
Fe wnaeth amseroedd aros ar gyfer galwadau oren waethygu hefyd, gyda llai na chwarter (22%) yn cyrraedd o fewn 30 munud, gyda dim ond 15% yn cyrraedd o fewn yr amser hwnnw ym Mwrdd Iechyd Caerdydd a’r Fro.
“Trychinebus”
Daw’r ystadegau hyn wrth i Lywodraeth Cymru gyhoeddi cyllid newydd i fynd i’r afael â rhestrau aros y Gwasanaeth Iechyd, ac yn ôl y Ceidwadwyr Cymreig, mae’n “hanfodol nad yw’r arian hwn yn rhedeg allan”.
“Hyd yn oed cyn y pandemig, roedden ni wedi arfer gweld niferoedd trychinebus ym maes gofal iechyd yng Nghymru yn sgil camreoli Llafur,” meddai Russell George, llefarydd iechyd y Ceidwadwyr Cymreig.
“Ond mae cael yr amseroedd aros gwaethaf erioed mewn adrannau brys a’r rhestrau aros hiraf erioed ar gyfer triniaethau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn yr un mis yn dangos diffyg arweinyddiaeth llwyr.
“O ystyried pa mor drychinebus yw’r rhifau hyn, mae’n gwneud i chi feddwl faint o flynyddoedd all basio cyn gallwn ni ddisgwyl dod yn agos at dorri’r holl recordiadau iawn yn hytrach na’r holl rai anghywir.
“Er ein bod ni’n gwybod bod Awst yn fis anodd i adrannau brys, nawr ein bod ni’n bell tu hwnt i frigiadau Covid, dylem ni weld gwelliannau wrth gwrdd ag anghenion cleifion.
“Rydyn ni’n gweld hyn yn Lloegr ond ddim yng Nghymru, yn anffodus, rhywbeth sydd yn annerbyniol, yn syml.
“Mae’r cyllid sydd wedi’i gyhoeddi i fynd i’r afael â’r rhestrau aros yn ddechrau, a gobeithio y bydd yn cael ei gyfeirio tuag at ein galwadau i lenwi’r 3,000 o swyddi gwag yn y Gwasanaeth Iechyd, ymestyn y defnydd o ganolfannau diagnosis sydyn, ac archwilio’r posibilrwydd o gyflwyno canolfannau arbenigol i fynd i’r afael â thriniaethau wedi’u trefnu cyn gynted â phosib.”