Mae Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford, wedi rhybuddio bod achosion Covid-19 yn parhau i fod yn uchel, er bod y niferoedd yn gostwng.

Yn yr un modd, mae’r nifer o bobol sydd â Covid-19 mewn ysbytai wedi gostwng, ond mae’r Gwasanaeth Iechyd yn “parhau i wynebu pwysau mawr”.

Bu Prif Weinidog Cymru yn annerch cynhadledd i’r Wasg dros ginio, gyda chadarnhad eisoes wedi dod yn gynharach yn y dydd bod Cymru’n aros ar lefel rybudd sero am y dair wythnos nesaf.

“Mae’r nifer (o achosion) ymhlith yr uchaf ers dechrau’r pandemig gyda’r cyfraddau uchaf ymhlith pobol ifanc,” meddai Mark Drakeford wrth gynhadledd Llywodraeth Cymru.

“Mae’r cyfraddau ymhlith pobol o dan 25 bedair gwaith yn uwch na chyfradd yr achosion ymhlith pobl dros 60.

“Fodd bynnag, mae niferoedd wedi gostwng i fod yn is na 500 achos ymhlith 100,000 o bobol yn ystod y diwrnodau diwethaf, ond mae hyn yn parhau i fod yn uchel.

“Rydym hefyd wedi gweld gostyngiad yn y niferoedd o bobol sy’n dioddef â Covid-19 mewn ysbytai.

“Fodd bynnag, mae’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol a’r gwasanaethau cymdeithasol yn parhau i wynebu pwysau mawr yn sgil achosion sydd ddim yn gysylltiedig â’r feirws.”

Plediodd y Prif Weinidog ar bobol i “feddwl yn ofalus” cyn ymweld ag unedau brys.

Llacio rheolau mewn cartrefi gofal

Cyhoeddodd Mark Drakeford bod rheolau’n cael eu llacio mewn cartrefi gofal o heddiw (dydd Gwener, 8 Hydref) ymlaen.

Disgrifiodd cartrefi gofal fel un o’r “materion mwyaf heriol” i’r Llywodraeth orfod wynebu yn ystod y pandemig.

Dywedodd y bydd llacio’r rheolau yn ei gwneud hi’n llawer iawn haws i bobol gael ymweld â’u hanwyliaid.

Bydd rheolau ar gael mynd ag anrhegion megis bwyd hefyd yn cael eu llacio.

“Mae cartrefi gofal ac ymweld â chartrefi gofal wedi bod yn un o’r materion mwyaf heriol yn ystod y pandemig,” meddai’r Prif Weinidog.

“Bydd gan reolwyr cartrefi nawr yr hawl i ganiatáu i ymwelwyr gymryd prawf Covid-19 adref ac ni fydd rhaid iddyn nhw hunanynysu mewn ystafell preswylydd nag mewn ystafell ymweld benodol.

“Bydd cyfyngiadau sy’n ymwneud â rhoddion hefyd yn cael eu llacio, gan gynnwys bwyd a diod.”

130,000 wedi cael brechlyn atgyfnerthol

Mae 130,000 o bobol yng Nghymru bellach wedi derbyn brechlyn atgyfnerthol, yn ôl y Prif Weinidog.

Ychwanegodd bod y rhaglen frechu ar gyfer plant 12 i 15 oed yn perfformio yn “gadarnhaol”.

“Mae mwy o rai rhwng 12 a 15 oed wedi cael eu brechu’r wythnos hon ac mae’r adborth rydym yn ei gael gan ganolfannau brechu yn gadarnhaol,” meddai.

“Dyw hi byth yn rhy hwyr i chi gael eich brechu ac mae modd trefnu mynd i ganolfan frechu a chael gwybodaeth oddi ar ein gwefan.”

Datgelodd Mark Drakeford bod mwy o bobol wedi bod yn ceisio cael prawf PCR.

“Mae’r niferoedd o bobol sydd wedi bod yn cael prawf PCR wedi codi yn ddiweddar – i fyny hyd at 190,000 yr wythnos hyd at ddiwedd mis Medi.

“Os bydd y galw yn cynyddu bydd yn rhaid i ni weithredu er mwyn sicrhau digon o gyflenwad.

“Rydym yn gweithio gyda gweddill y Deyrnas Unedig er mwyn cyflwyno cynlluniau.”

Canran y bobol sy’n profi’n bositif yn “aneglur”

Yn y cyfamser, mae’r Swyddfa Ystadegau Gwladol wedi dweud bod canran y bobol sy’n profi’n bositif am Covid-19 yng Nghymru yn “aneglur”.

“Yng Nghymru, roedd % y bobl a oedd yn profi’n bositif am COVID-19 yn aneglur yn yr wythnos a ddaeth i ben ar 2 Hydref 2021,” meddai’r Swyddfa Ystadegau Gwladol mewn datganiad.

“Rydym yn amcangyfrif bod gan 56,900 o bobol, neu 1.87% o’r boblogaeth yng Nghymru, COVID-19, sy’n cyfateb i tua 1 o bob 55 o bobol.

“Mae hyn yn cynnwys pob amrywiolyn.”

Cymru’n aros ar lefel rhybudd sero am y dair wythnos nesaf

Llywodraeth Cymru wedi addasu eu Cynllun Rheoli’r Coronafeirws i gynnwys dau gynllun ar gyfer senarios posib dros y gaeaf