Ar ôl absenoldeb o ddwy flynedd o ganlyniad i’r pandemig Covid-19, mae Varsity Cymru’n cael ei chynnal yn Abertawe heddiw (dydd Mercher, Ebrill 27), wrth i brifysgolion Abertawe a Chaerdydd gystadlu yn erbyn ei gilydd mewn dros 30 o gampau.

Bydd yr uchafbwynt tua diwedd y dydd, wrth i dimau rygbi’r dynion a’r merched fynd benben yn Stadiwm Swansea.com, gyda gêm y merched yn dechrau am 4.30yp a’r dynion am 7yh.

Mae’r prifysgolion wedi bod yn herio’i gilydd drwy gydol yr wythnos hon, ac roedd Caerdydd yn fuddugol yn yr hwylio a’r rhwyfo ar ddechrau’r mis, ac Abertawe’n cipio’r saethyddiaeth yn ystod wythnos Ebrill 2-9.

Caerdydd aeth â’r karate ddydd Sadwrn (Ebrill 23), gydag Abertawe’n fuddugol mewn marchogaeth ddydd Llun (Ebrill 25), tra bod tîm criced merched Abertawe wedi ennill eu gornest nhw ddoe (dydd Mawrth, Ebrill 26).

Mae modd dilyn yr holl gystadlaethau heddiw (dydd Mercher, Ebrill 27) drwy fynd i’r wefan  https://welshvarsity.com/shield.

Hanes Varsity Cymru

Fel gêm rygbi yn unig y dechreuodd Varsity Cymru ar Barc yr Arfau yn 1997 ond erbyn hyn, hi yw’r gystadleuaeth chwaraeon fwyaf rhwng prifysgolion cyfagos ar wahân i Rydychen a Chaergrawnt.

Mae’n cynnwys dros 30 o gampau bob blwyddyn, o’r campau mwyaf traddodiadol fel rygbi, pêl-droed a chriced i rai llai prif ffrwd fel frisbee eithafol.

Caerdydd yw deiliaid y Darian a’r Gwpan ar hyn o bryd, yn dilyn eu buddugoliaeth yn 2019.

Gobeithion y ddwy brifysgol

Mae Prifysgol Abertawe’n edrych ymlaen at gynnal y digwyddiad eleni, fel yr eglura Georgia Smith, Swyddog Chwaraeon Undeb Myfyrwyr y brifysgol.

“Dw i wedi cyffroi’n fawr o weld Varsity yn dychwelyd a phe na bai hynny’n ddigon da, yn Abertawe mae hi!” meddai.

“Ar ôl yr hyn sydd wedi bod yn flynyddoedd anodd i fyfyrwyr, dw i’n gwybod y bydd pawb ym Mhrifysgol Abertawe wrth eu boddau o weld Lôn Sgeti’n gwaedu’n wyrdd unwaith eto.

“Fy mhleser i fydd croesawu myfyrwyr cyfredol a chyn-fyfyrwyr yn ôl i weld y Varsity fwyaf yng Nghymru i ddathlu chwaraeon a gelyniaeth gyfeillgar.

“Fy neges i holl fyfyrwyr Abertawe yw, byddwch yn barod i ganu a bloeddio dros Abertawe a dangos i Gaerdydd sut beth yw’r Fyddin Werdd a Gwyn!”

Yn ôl Megan Somerville, Dirprwy Lywydd yr Undeb Chwaraeon ac Athletau ym Mhrifysgol Caerdydd, y Varsity yw penllanw’r flwyddyn chwaraeon i’r brifysgol.

“Mae’r digwyddiad enfawr hwn yn ganolbwynt i’r calendr myfyrwyr, ac allwn ni ddim aros i groesawu cefnogwyr hen a newydd yn ôl i gefnogi Tîm Caerdydd,” meddai.

“Sicrhewch eich bod chi’n rhan o’r digwyddiad chwaraeon myfyrwyr mwyaf yn y Deyrnas Unedig ym mis Ebrill, ac yn gwylio Caerdydd yn dod â’r gwpan a’r darian adref.”

Bydd y gêm rygbi heno ar S4C Clic, tudalen Facebook S4C Chwaraeon a thudalen YouTube S4C.