Mae’r cyflwynydd rygbi Gareth Rhys Owen wedi dweud wrth golwg360 nad yw’r system bresennol o redeg rhanbarthau rygbi Cymru – y Gweilch, y Scarlets, Caerdydd, a’r Dreigiau – yn gweithio.

Daw hyn ar ôl i adroddiad ar ddyfodol rygbi yng Nghymru gynnig diddymu un o’r pedwar rhanbarth proffesiynol erbyn 2023-24.

Comisiynwyd yr adroddiad ar gyfer y Bwrdd Rygbi Proffesiynol, sy’n gyfrifol am y gêm Nghymru ynghyd â’r rhanbarthau ac Undeb Rygbi Cymru.

Fe fyddan nhw’n astudio’r cynigion yn eu cyfarfod nesaf ar Mai 11.

Oakwell Sports Advisory oedd yn gyfrifol am ysgrifennu’r adroddiad, sy’n awgrymu pedwar argymhelliad.

Roedd awgrymiadau eraill yn cynnwys model amgen o ariannu chwaraewyr.

Mae’r drefn bresennol yn golygu bod Undeb Rygbi Cymru’n cyfrannu 80% o’r cyflogau i’r 38 chwaraewr domestig gorau, gyda’r rhanbarthau yn cyfrannu’r 20% arall.

Yn ôl yr adroddiad byddai diddymu un o’r rhanbarthau yn golygu arbed cyfartaledd o £7.8m ar unwaith, gyda Covid-19 wedi cyfrannu at drafferthion ariannol y gêm yng Nghymru.

Ond gallai’r argymhellion hyn gael eu diystyru gan y Bwrdd Rygbi Proffesiynol .

Cafodd rygbi rhanbarthol ei gyflwyno yn 2003, gyda phum tîm yn cael ei sefydlu.

Fodd bynnag, cafodd y Rhyfelwyr Celtaidd eu diddymu flwyddyn yn ddiweddarach.

“Y system bresennol ddim yn gweithio”

“Dw i’n meddwl ei bod hi’n bwysig tanlinellu’r ffaith mai canlyniad arolygiad gan gorff annibynnol yw hwn,” meddai Gareth Rhys Owen.

“Dw i’n meddwl bod yna lot o bobol yn awgrymu mai penderfyniad gan Undeb Rygbi Cymru yw e, neu fod yna ryw gynllun cloak and dagger i ddod â rhanbarth i ben.

“Na, awgrymiadau yw’r rhain gan gwmni annibynnol sydd wedi cael y dasg o adolygu sefyllfa’r gêm yng Nghymru ac mae un o’r awgrymiadau maen nhw wedi ei gynnig yw lleihau nifer y rhanbarthau o bedwar i dri.

“O edrych ar hynny yn wrthrychol, mae’n deg i ddweud bod y system bresennol ddim yn gweithio o ran llwyddiant rhanbarthau Cymru.

“Dydyn nhw ddim yn tanio ar eu gorau, ac mae hyn yn cynnig un ateb i’r broblem.

“Yn amlwg mae yna lot fawr o ymateb chwyrn wedi bod gan gefnogwyr rhanbarthau Cymru a’r rhai sy’n ymwneud â’r rhanbarthau ac mae hynny i’w ddisgwyl mewn ffordd.

“Mae eu dyfodol nhw fel corff unigol yn y fantol.

“Os ydych chi’n gwneud cymhariaeth gyda busnesau eraill, mae rhywun wedi gofyn am gymorth i adolygu eu busnes nhw ac yn amlwg weithiau dyw’r canlyniad ddim at ddant pawb.”

‘Gofyn yr un cwestiynau’

Mae’r un cwestiynau yn cael eu gofyn ers blynyddoedd, meddai Gareth Rhys Owen.

“Rydyn ni’n gofyn yr un cwestiynau yr ydyn ni wedi gofyn dro ar ôl tro, cenhedlaeth ar ôl cenhedlaeth gyda rygbi Cymru, sef sut mae modd gwario arian yn fwy effeithlon?” ychwanega.

“A’r cwestiwn hanfodol yw a oes digon o arian yn y pot i gynnal pedwar tîm llwyddiannus.

“Mae’r arolygiad yma yn awgrymu ’nagoes’, a byddwn i’n dadlau bod nifer o bobol ar lawr gwlad yng Nghymru yn cytuno â’r gosodiad yna.”