Bydd S4C yn dangos rownd derfynol Tlws FA Buildbase rhwng Bromley a Wrecsam ar Fai 22.

Bydd Sgorio yn Stadiwm Wembley i ddarlledu’r ffeinal yn fyw, gyda’r rhaglen yn dechrau am 3.45yh, gyda’r gic gyntaf am 4.15yh.

Dyma fydd y trydydd tro i’r ddau dîm yng Nghynghrair Cenedlaethol Vanarama gwrdd y tymor hwn, gyda Wrecsam yn ennill o 2-0 ar y Cae Ras, cyn i’r ddau dîm gael gêm gyfartal 0-0 yn eu gêm ddiweddaraf yn Hayes Lane, cartref Bromley.

Fe lwyddodd Wrecsam i guro arweinwyr y Gynghrair Genedlaethol, Stockport County, yn rownd gyn-derfynol y gystadleuaeth, wedi iddyn nhw drechu Notts County, Boreham Wood, Folkestone Invicta a Dinas Caerloyw yn y rowndiau blaenorol.