Mae buddugoliaeth o fewn cyrraedd i dîm criced Morgannwg ar ôl tri diwrnod o’u gêm Bencampwriaeth yn erbyn Swydd Gaerlŷr yng Nghaerdydd.

Blaenoriaeth o 41 sydd gan yr ymwelwyr yn eu hail fatiad, ond dim ond tair wiced yn weddill.

Batiodd Michael Neser a David Lloyd yn gadarn i sicrhau bod Morgannwg mewn sefyllfa gref ar drothwy’r diwrnod olaf fory (dydd Sul, Mai 8).

Dechreuodd y sir Gymreig y trydydd diwrnod ar 305 am bump, ac fe wnaeth hanner canred Chris Cooke (52) a chyfraniadau gan Neser (29) a James Weighell (34) sicrhau bod gan Forgannwg flaenoriaeth batiad cyntaf o 117.

Byddan nhw’n hyderus, felly, fod modd iddyn nhw selio’u buddugoliaeth gartref gynta’r tymor hwn, gyda’r ymwelwyr yn 158 am saith.

Manylion

Cipiodd y Saeson wiced Andy Gorvin yn gynnar yn y dydd, wrth i Beuran Hendricks daro’i goes o flaen y wiced am 23 wrth i’r bêl wyro’n ôl at y batiwr.

Roedd Morgannwg ar ei hôl hi o naw rhediad ar y pryd, ond adeiladodd Cooke a Neser bartneriaeth o 65, wrth i Cooke gyrraedd ei hanner canred oddi ar 138 o belenni.

Ond roedd Cooke allan pan gafodd ei fowlio gan y troellwr llaw chwith Callum Parkinson.

Roedd Morgannwg i gyd allan pan gafodd Weighell ei ddal gan Hassan Azad oddi ar fowlio Ben Mike am 34, ond fe gollon nhw allan ar bwyntiau batio llawn.

Wrth ddechrau eu hail fatiad, roedd yr ymwelwyr yn 15 am ddwy o fewn dim o dro, gyda Sam Evans wedi’i ddal i lawr ochr y goes gan y wicedwr Cooke oddi ar fowlio Michael Hogan, ac fe barodd Rishi Patel saith pelen yn unig cyn rhoi daliad arall i Cooke oddi ar fowlio Michael Neser.

Adeiladodd Azad a Louis Kimber bartneriaeth o 66 wedyn, ond cafodd Kimber ei fowlio gan Neser am 37 i dorri’r bartneriaeth.

Cyrhaeddodd Azad ei ail hanner canred o’r ornest oddi ar 88 o belenni, ond roedd Azad a Wiaan Mulder allan oddi ar ddwy belawd yn olynol gan David Lloyd, y naill wedi’i ddal gan Marnus Labuschagne yn y slip a’r llall wedi’i ddal gan Cooke.

Blaenoriaeth o 22 oedd gan y Saeson erbyn iddyn nhw golli eu chweched wiced, wrth i Neser daro coes Scott Steel o flaen y wiced am 18, a dim ond 41 ar y blaen oedden nhw pan gafodd Harry Swindells ei fowlio gan Weighell wrth beidio ergydio.

‘Diwrnod da’

“Roedd yn ddiwrnod da,” meddai Chris Cooke.

“Dw i’n credu ei bod hi’n bwysig yn yr awr gyntaf i fynd heibio’r bêl newydd.

“Dw i’n credu eu bod nhw wedi bowlio’n wych ac wedyn, roedd cael blaenoriaeth o ychydig dros 100 yn ymdrech dda, ac wedyn fe wnaethon ni fowlio’n wych ac wedi cael ein gwobrwyo yn y pen draw.”