Mae Clwb Pêl-droed FC Nantes yn Llydaw wedi beirniadu carfan fechan o gefnogwyr Clwb Pêl-droed Nice am ganu caneuon sarhaus am Emiliano Sala.
Bu farw’r Archentwr fis Ionawr 2019 wrth iddo deithio rhwng Caerdydd a Llydaw wrth gwlbhau trosglwyddiad i glwb prifddinas Cymru, ar ôl i’r awyren oedd yn ei gludo blymio i’r môr ger ynysoedd y Sianel, gan ladd y peilot David Ibbotson hefyd.
Mewn datganiad, dywed Clwb Pêl-droed FC Nantes eu bod nhw “wedi darganfod gyda braw” fod caneuon sarhaus wedi cael eu canu yn ystod gêm yn erbyn Nice.
Maen nhw’n dweud nad ydyn nhw’n gallu eu “condemnio’n ddigon cryf”.
Ond maen nhw hefyd wedi diolch i Nice a’u rheolwr Christophe Galtier “am eu cefnogaeth ac am gondemnio’n gryf” yr hyn oedd wedi digwydd, ac wedi datgan eu cefnogaeth o’r newydd i deulu a chydnabod Emiliano Sala.