Cyn-fatiwr sydd â’i enw yn llyfrau hanes Clwb Criced Morgannwg yw prif hyfforddwr newydd tîm criced Lloegr ar gyfer gemau prawf.
Treuliodd Brendon McCullum o Seland Newydd gyfnod byr gyda’r sir yng Nghymru yn ystod tymor 2006, gan sgorio canred yn ei gêm gyntaf – un o ddim ond 11 chwaraewr i gyflawni’r gamp honno dros y sir.
Trwy gyd-ddigwyddiad, bydd McCullum, sy’n 40 oed, wrth y llyw am y tro cyntaf ar gyfer y gyfres yn erbyn Seland Newydd fis nesaf.
Cafodd McCullum ei benodi ar sail penderfyniad unfrydol gan bwyllgor Bwrdd Criced Cymru a Lloegr.
Ar hyn o bryd, mae’n brif hyfforddwr tîm Kolkata Knight Riders yn yr IPL yn India, ac mae e wedi hyfforddi’r Trinbago Knight Riders yn y CPL yn y Caribî.
Yn gyn-gricedwr rhyngwladol, enillodd e 101 o gapiau dros ei wlad, ac roedd e’n gapten rhwng 2012 a 2016, pan ddaeth ei yrfa ar y cae i ben.
“Hoffwn ddweud pa mor falch ydw i o gael y cyfle hwn i gyfrannu mewn modd positif at system brawf Lloegr, a symud y tîm yn ei flaen i gyfnod mwy llwyddiannus,” meddai yn dilyn ei benodiad.
Mae’n dod yn brif hyfforddwr ar adeg pan gafodd Lloegr embaras wrth golli Cyfres y Lludw yn Awstralia o 4-0.
“Dw i’n ymgymryd â’r swydd hon, ac rwy’n llwyr ymwybodol o’r heriau sylweddol sydd gan y tîm ar hyn o bryd, ac rwy’n credu’n gryf yn fy ngallu i helpu’r tîm i godi’n gryfach unwaith rydyn ni wedi’u herio nhw,” meddai wedyn.
Mae disgwyl iddo fe gyrraedd y Deyrnas Unedig ddiwedd y mis hwn, gan ymuno â’r capten newydd Ben Stokes, sydd ar hyn o bryd yn chwarae i Durham yn erbyn Morgannwg.