Mae Jane Dodds yn dweud ei bod hi’n “eironig” fod y Ceidwadwyr Cymreig yn cynnal eu cynhadledd mewn ardal sydd wedi gwrthod y blaid.
Daw ei sylwadau wrth i’r Ceidwadwyr Cymreig ymgynnull yn y Drenewydd heddiw (dydd Gwener, Mai 20).
Ledled Cymru, collodd y blaid fwy nag 80 o seddi yn yr etholiadau lleol ddechrau’r mis hwn.
Enillodd y Democratiaid Rhyddfrydol y bleidlais a’r rhan fwyaf o seddi ym Mhowys.
“Dangosodd yr etholiadau lleol yn gynharach y mis hwn fod y Ceidwadwyr Cymreig yn blaid sydd yn mynd am yn ôl,” meddai arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru.
“Ledled Cymru, collon nhw dros 80 o seddi.
“Mae hi braidd yn eironig eu bod nhw wedi dewis cynnal eu cynhadledd ym Mhowys, lle gwnaeth yr etholwyr wrthod eu llwyfan polisi yn eu heidiau, ac yn y Drenewydd yn benodol, lle enillodd y Democratiaid Rhyddfrydol y bleidlais gyhoeddus a’r rhan fwyaf o seddi.
“Mae hi’n fwy o syndod eto eu bod nhw wedi dewis gwneud Boris Johnson a Rishi Sunak yn westeion anrhydeddus, pan glywson ni dro ar ôl tro yn ystod yr etholiadau fod diffyg hygrededd Sunak a Johnson, ill dau, o ran yr argyfwng costau byw yn un o’r prif resymau pam fod pleidleiswyr yn troi o’r Ceidwadwyr at y Democratiaid Rhyddfrydol.”