Wrth siarad â golwg360 yn y Drenewydd, mae Virginia Crosbie, Aelod Seneddol Ceidwadol Ynys Môn, wedi bod yn brolio ‘cynnydd’ honedig y blaid ar yr ynys.

Mae Ceidwadwyr ar draws Cymru wedi ymgynnull yn y Drenewydd heddiw (dydd Gwener, Mai 20) ar gyfer diwrnod cyntaf cynhadledd flynyddol y Ceidwadwyr Cymreig.

Dyma’r tro cyntaf ers 2020 i’r blaid allu cynnal cynhadledd, gyda’r un ddiwethaf yn dod bythefnos yn unig cyn i’r cyfnod clo cyntaf ddod i rym.

Virginia Crosbie, Aelod Seneddol Ynys Môn, oedd yn gyfrifol am agor y gynhadledd, gan gyflwyno arweinydd y blaid yn Senedd Cymru, Andrew RT Davies.

Fe wnaeth hi ran o’i haraith yn Gymraeg, rhywbeth ddisgrifiodd hi fel cam “pwysig” yn ei thaith i ddod yn rhugl yn yr iaith.

Daw cynhadledd y Ceidwadwyr Cymreig bythefnos yn unig ar ôl canlyniadau erchyll y blaid yn yr etholiadau lleol.

Collodd y blaid 86 o seddi, yn ogystal â rheolaeth dros Gyngor Sir Fynwy – yr unig gyngor yr oedden nhw yn ei redeg cyn yr etholiad.

Ceidwadwyr San Steffan heb wneud niwed yng Nghymru

Wrth siarad â Golwg, beiodd Andrew RT Davies y “naratif cenedlaethol”, gan ddweud bod sgandalau diddiwedd yn Rhif 10 a’r argyfwng costau byw wedi dominyddu’r ymgyrch yn yr etholiadau lleol.

Fodd bynnag, mae Virginia Crosbie yn mynnu na ddaru’r blaid yn San Steffan wneud niwed i’r ymgyrch yng Nghymru.

“Un peth sydd angen ei nodi yw bod y niferoedd pleidleisio wedi bod yn isel, 39% o drigolion Ynys Môn bleidleisiodd o’i gymharu â 2017,” meddai wrth golwg360.

“Mae hynny yn cymharu â ffigwr yn nes at 70% mewn etholiadau cyffredinol.

“Fe wnaethon ni (y Ceidwadwyr Cymreig) redeg ymgyrch hynod o leol, dw i’n meddwl mai dim ond un person wnaeth grybwyll sgandalau San Steffan i mi yn ystod yr ymgyrch.

“Dw i’n ffocysu ar weithio’n galed dros yr Ynys a bod yn Aelod Seneddol sy’n gwrando ar fy etholwyr.”

“Balch” o ymgeiswyr Ynys Môn

Cyn yr etholiadau, disgrifiodd Virginia Crosbie Ynys Môn fel ardal “Geidwadol i’w chraidd”.

Fodd bynnag, ni chafodd yr un Ceidwadwr ei ethol i’r Cyngor.

Ydi hi’n credu ei bod hi wedi siarad yn rhy gynnar felly?

“Dw i’n meddwl mai’r realiti ydi bod yna lot yn gyffredin rhwng ymgeiswyr etholiadau lleol pa bynnag blaid y maen nhw sefyll drosti,” meddai.

“Dw i’n falch iawn o’r ymgeiswyr wnaeth sefyll drosom ni ar Ynys Môn, fe gawson ni 19% o’r bleidlais.

“Ac mewn gwirionedd, dydyn ni ddim wedi bod ag aelod Ceidwadol ar y Cyngor ers blynyddoedd, felly dw i’n credu ein bod ni wedi gwneud cynnydd.

“Fe gipiodd Plaid Cymru’r Cyngor gyda 41% o’r bleidlais, felly dw i ddim yn meddwl bod 19% i ni yn rhy ddrwg o gwbl.”

Argyfwng tai ar Ynys Môn

Un mater sy’n effeithio ar drigolion Ynys Môn yw’r argyfwng tai.

Yn ôl ffigyrau’r Cyngor Sir, mae 62.5% o bobol yr ynys wedi cael eu prisio allan o allu fforddio cartref.

Bu cryn ymateb fore heddiw, wrth iddi ddod i’r amlwg bod pobol leol wedi eu “gwahardd” rhag prynu tai mewn datblygiad newydd ar yr ynys.

Mae hynny oherwydd rheolau cynllunio sy’n golygu bod rhaid eu gwerthu fel cartrefi gwyliau.

Mae’r stad o 16 o dai ym Mrynteg, ger Benllech, yn cael eu hadeiladu ynghlwm ag amod sy’n golygu mai dim ond fel ail gartrefi mae modd eu defnyddio nhw.

Maen nhw i gyd yn dai tair llofft ac ar y farchnad am £285,000 yr un – ffigwr a gafodd ei ddisgrifio fel “crocbris” gan Rhun ap Iorwerth, Aelod Plaid Cymru o’r Senedd ar yr ynys.

Er ei bod yn cydnabod y broblem, mae Virginia Crosbie o’r farn bod angen ffocysu ar ddod â swyddi i’r ardal.

“Pan dw i’n mynd o gwmpas yr ynys, mae pobol ifanc yn dweud wrtha i eu bod nhw eisiau fforddio cartrefi eu hunain, maen nhw eisiau gallu byw yn eu cymunedau ac maen nhw eisiau gwarchod yr iaith Gymraeg a’r diwylliant Cymreig,” meddai.

“Wrth gwrs, mae cynllunio a thai wedi cael ei ddatganoli i Lywodraeth Cymru felly dw i’n ffocysu ar geisio gwneud gwahaniaeth lle dw i’n gallu.

“Mae hynny yn cynnwys sicrhau bod yna ddigon o swyddi da ar gael i bobol ifanc, a dyna pam dw i wedi ymgyrchu dros Wylfa ers dod yn Aelod Seneddol.

“Byddai’r prosiect hwnnw yn creu 8,000 o swyddi adeiladu ac oddeutu 800 i 900 o swyddi parhaol.

“Dw i hefyd yn ymgyrchu dros sefydlu porthladd rhydd yng Nghaergybi, a dw i’n falch iawn bod pethau’n dechrau symud o ran hynny.”