Mae’r gwaith adeiladu ar y gweill i ddarparu tai fforddiadwy 100% ym Mhentraeth ar Ynys Môn, fydd yn cynnig cymysgedd o gartrefi i’r rhai sy’n byw a gweithio ar yr ynys.
Bydd y datblygiad newydd, sy’n cael ei arwain gan ClwydAlyn mewn partneriaeth â Chyngor Sir Ynys Môn, yn cynnwys 23 o gartrefi ar rent.
O blith y rheiny, bydd 13 yn eiddo i ClwydAlyn ac yn cael eu rheoli ganddyn nhw, a’r deg arall yn eiddo i Gyngor Sir Ynys Môn ac yn cael eu rheoli ganddyn nhw.
Bydd y safle’n cynnwys pedwar fflat ac 19 o dai mewn ardal lle mae prinder tai fforddiadwy.
Bydd y cynllun yn cynnig cartrefi effeithlon o ran ynni a chyfeillgar o ran carbon, a byddan nhw’n cynnwys amrywiaeth o dechnolegau cynaliadwy.
Maen nhw wedi’u hadeiladu â deunyddiau lleol sy’n cyflawni’n dda, fel pren o Gymru wedi ei weithgynhyrchu yn y Bala, yn ogystal â gosod pympiau ffynhonnell aer yn hytrach na systemau gwresogi a dŵr poeth traddodiadol, gan leihau’r costau gwresogi a lleihau’r allyriadau carbon.
‘Angen allweddol am dai fforddiadwy’
Dywedodd Craig Sparrow, Cyfarwyddwr Gweithredol Datblygu ClwydAlyn:
“Bydd datblygu’r safle hwn yn 23 o gartrefi newydd o safon uchel yn ymdrin ag angen allweddol am dai fforddiadwy i gymysgedd o bobol yn yr ardal leol,” meddai Craig Sparrow, Cyfarwyddwr Gweithredol Datblygu ClwydAlyn.
“Bydd y dyluniad a’r safon uchel o’r adeiladu yn sicrhau y bydd y cartrefi nid yn unig yn llawn steil a chyfforddus ond hefyd yn addas at y dyfodol.
“Rydym yn falch iawn o gael gweithio mewn partneriaeth â Williams Homes er mwyn creu cymuned newydd a bywiog, yn ogystal â rhoi hwb i gyflogaeth yn lleol.”
Bydd Williams Homes yn gwneud y gwaith adeiladu ar y safle, gan ddefnyddio eu harbenigedd wrth adeiladu tai ffrâm bren carbon isel o safon uchel.
“Rydym yn falch o fod yn cydweithio gyda ClwydAlyn a Chyngor Sir Ynys Mon i greu cartrefi newydd fforddiadwy ar gyfer pobol lleol,” meddai Owain Williams o Williams Homes.
“Bydd yr adeiladwaith o gartrefi ffrâm bren o’r radd flaenaf gydag inswleiddiad ffibr pren yn creu cyfleoedd Gwaith a trwy’r cynllun peilot Bwrdd Hyfforddi’r Diwydiant Adeiladu sy’n cefnogi troseddwyr yn HMP Berwyn, cynllun mentora sy’n gweld troseddwyr yn cael eu hyfforddi mewn sgiliau fel gosod brics, plastron, gwaith coed a weldio yn y carchar er mwyn sicrhau eu bod yn gallu symud i gyflogaeth sefydlog ar ôl cael eu rhyddhau.”
Dros £4m o fuddsoddiad i’r ardal leol
“Rydym yn falch iawn ein bod wedi gallu dechrau’r gwaith ar y safle,” meddai Craig Sparrow wedyn.
“Mae’r tîm wedi gweithio’n galed iawn i gael y prosiect hwn i’r cam yma a fydd yn dod â dros £4m o fuddsoddiad i’r ardal leol, gan gefnogi ein hymdrech i gyfoethogi cymunedau Gogledd Cymru.”
Yn ôl Ned Michael, Pennaeth Tai Cyngor Sir Ynys Môn, mae’r prosiect yn cynrychioli eu “hymrwymiad parhaus i ddarparu tai o safon uchel gyda deiliadaethau amrywiol i denantiaid a theuluoedd mewn cymunedau ar draws yr ynys”.
“Mae gan Wasanaeth Tai’r Cyngor gyfrifoldeb statudol i asesu anghenion tai ac arwain ar weithio mewn partneriaeth i ddarparu tai o safon uchel yn lleol,” meddai.
“Bydd ein Strategaeth Dai 2022 ‐ 2027 yn ganolog wrth i ni weithio’n annibynnol, a gyda phartneriaid allweddol, i barhau i fodloni anghenion ein preswylwyr yn awr ac yn y dyfodol.
“Rwy’n falch o weld bod y gwaith wedi dechrau ym Mhentraeth.
“Rydym wedi gweld cynnydd sylweddol ym mhrisiau tai Ynys Môn ac mae mwy fyth o angen i gefnogi teuluoedd lleol i mewn i’r farchnad dai.
“Bydd y datblygiad hwn yn ein helpu i wneud hyn; a bydd o fudd i gwmnïau lleol a’r economi.”
Mae’r cynllun yn rhan o raglen ddatblygu ClwydAlyn i ddarparu 1,500 o gartrefi newydd yng ngogledd Cymru erbyn 2025 am fuddsoddiad o £250m gan ddod â chyfanswm y tai maen nhw’n eu rheoli i dros 7,500.