Mae Cyngor Sir Ddinych wedi cael eu cyhuddo o wneud degau o filoedd o bunnoedd o elw drwy dargedu pobol sy’n ysmygu ac yn taflu sigaréts ar lawr mewn gwasanaeth ar hyd yr A55.
Mae’r cyngor yn cyflogi’r cwmni District Enforcement i roi hysbysiadau cosb am droseddau’n ymwneud â thaflu sbwriel, baw ci ac ysmygu.
Ond tra bod baw ci yn uchel ar restr flaenoriaethau trigolion, dim ond dwy gosb benodedig a gafodd eu rhoi yn sgil hynny yn 2021, ond chafodd y naill na’r llall mo’i thalu.
Cafodd 43 o ddirwyon gwerth £100 yr un eu rhoi i berchnogion cŵn a aeth i mewn i barthau lle nad oedd hawl gan gŵn i fod, a chafodd perchennog ci arall ddirwy am beidio â rhoi ci ar dennyn, ond chafodd honno mo’i thalu chwaith.
Mae hyn o’i gymharu ag 84% o ddirwyon am droseddau’n ymwneud ag ysmygu.
O blith 944 o ddirwyon cosb benodedig a gafodd eu rhoi yn 2021, roedd 824 ohonyn nhw’n ddirwyon gwerth £75 am ollwng sigaréts ar lawr. Roedd 48 o droseddau eraill yn ymwneud ag ysmygu mewn cerbydau neu fannau di-fwg.
Roedd un achlysur arall lle cafodd person ddirwy am ollwng sigar mewn modd anghyfrifol.
Y cyfanswm a gafodd ei gasglu mewn dirwyon cosb benodedig am droseddau’n ymwneud â sbwriel yn 2021 yw £56,420 ac mae llawer o’r dirwyon heb eu talu o hyd.
A55
Cafodd cannoedd o hysbysiadau cosb benodedig eu rhoi ar hyd yr A55 a’i gwasanaethau yn ardal Bodelwyddan.
Gan fod pob cosb wedi’i chofnodi’n wahanol, dydy hi ddim yn bosib rhoi cofnod lawn o leoliadau, ond cafodd cannoedd o ddirwyon eu rhoi mewn gwasanaethau ar gyfer bysiau.
Daeth y wybodaeth i’r amlwg drwy gais Deddf Rhyddid Gwybodaeth i Gyngor Sir Ddinbych.
Fe wnaeth un cynghorydd feirniadu hysbysiadau cosb benodedig fel cynllun er mwyn gwneud elw, ond does dim modd enwi’r cynghorydd gan ein bod ni yn y cyfnod cyn etholiad.
“Mae hi’n eithaf amlwg o’r data mai blaenoriaeth Gorfodaeth y Cyhoedd (y Cyngor) ddrwyddi draw yw elw, ac nid sicrhau bod ein cymunedau’n cael eu cadw’n lân,” meddai.
“Yn syfrdanol, mae 84% o’r holl ddirwyon a gafodd eu rhoi am droseddau’n ymwneud â sigaréts, a 66% ohonyn nhw wedi’u rhoi ar dir preifat mewn gwasanaethau neu barciau manwerthu, tra bod dim ond 1% o’r dirwyon am faw cŵn mewn mannau cyhoeddus.
“Mewn gwirionedd, mae mwy o ddirwyon (4%) wedi cael eu rhoi i gleifion bregus ac ymwelwyr yn Ysbyty Bodelwyddan nag i’r sawl sy’n achosi pryder bwriadol i iechyd y cyhoedd gyda phobol nad ydyn nhw’n glanhau ar ôl eu cŵn.
“Unwaith eto, mae cynghorwyr Sir Ddinbych wedi methu â chefnogi ein cymuned ac wedi ffafrio cwmni sy’n gwneud elw.
“Ag aralleirio Hamlet, mae rhywbeth ffiaidd yn Sir Ddinbych, ar wahân i’r hyn sydd wedi’i adael gan berchnogion cŵn di-hid.”
Ymateb y Cyngor Sir
“Mae’r Cyngor yn cymryd pob achos o sbwriel o ddifrif gan ei bod yn drosedd, ac ni ddylid ei oddef yn ein cymunedau,” meddai llefarydd ar ran y Cyngor Sir.
“Dydy hi ddim yn anghyffredin i fwyafrif helaeth o hysbysiadau cosb benodedig gael eu rhoi am sbwriel yn ymwneud ag ysmygu, gan mai sbwriel yn ymwneud ag ysmygu yw’r sbwriel mwyaf cyffredin i gael ei gofnodi yn Sir Ddinbych, a ledled y Deyrnas Unedig.
“Mae ysmygwyr sy’n taflu sigaréts yn gwneud hynny’n aml a thros gyfnod o amser, gall hyn achosi niwed i’r amgylchedd gan fod gwastraff yn cynnwys tocsinau sy’n niweidio ecosystemau.
“Yn ogystal â gorfodi, mae’r Cyngor yn cynnal cyrchoedd glanhau’r strydoedd sy’n cael ei gynyddu yn ystod misoedd yr haf i helpu i reoli’r cynnydd mewn sbwriel.
“Rydym hefyd yn cydweithio â phartneriaid megis Cadwch Gymru’n Daclus, gan hyrwyddo a chefnogi cyrchoedd casglu sbwriel cymunedol.
“Eleni byddwn ni’n lansio gwasanaeth gwell i lanhau traethau gyda pheiriannau sydd wedi’u dylunio’n arbennig i gribinio traethau’n lân fel na all gwastraff lygru’r môr, ac o Fai 1 byddwn yn cynyddu patrolau ar hyd bromenadau, traethau a mannau hardd poblogaidd er mwyn annog pobol i beidio â thaflu sbwriel ac i ymddwyn yn wrthgymdeithasol wrth drin a thrafod cŵn.
“Mae baw cŵn yn parhau’n flaenoriaeth i’r Cyngor, ac rydym yn cydweithio’n agos â District Enforcement ochr yn ochr ag aelodau lleol a’r cyhoedd i adnabod y sawl sy’n troseddu.
“Mae’r Cyngor hefyd yn rhedeg ymgyrch ymwybyddiaeth sy’n cynnwys arwyddion amlwg a negeseuon i atgoffa perchnogion anifeiliaid i ymddwyn yn gyfrifol.
“Mae perchnogion cŵn anghyfrifol yn gweithredu’n groes i’r Gorchymyn Gwarchod Mannau Cyhoeddus ac fe allen nhw dderbyn hysbysiad cosb benodedig o £100.
“Mae patrolau gorfodi’n parhau ac rydym hefyd yn annog pobol sy’n gweld baw ci yn cael ei ollwng i gysylltu â ni â gwybodaeth fel y gallwn ni dargedu ein patrolau.
“Er mwyn rhoi gwybod am berchnogion cŵn nad ydyn nhw’n glanhau ar ôl eu hanifeiliaid, mae gofyn i aelodau’r cyhoedd ddarparu disgrifiad o’r person, disgrifiad o’r ci, ac amser a lleoliad y drosedd.
“Dydy ein swyddogion gorfodi ddim yn gweithredu’n gudd – ar batrolau, maen nhw’n weladwy iawn er mwyn atal ymddygiad annymunol cyn iddo ddigwydd.
“Mae’r rhan fwyaf o berchnogion cŵn yn ymddwyn yn gyfrifol a hoffem ddiolch iddyn nhw am sicrhau bod ein cymunedau’n aros yn lân ac yn ddeniadol i’n trigolion.
“Er mwyn adrodd am achos o ollwng baw ci, ewch i www.denbighshire.gov.uk/en/environmental-health/dog-issues/report-a-dog-related-issue.aspx “