Mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi ymateb yn chwyrn i alwadau’r diwydiant twristiaeth ar i Lywodraeth Cymru ailfeddwl eu cynlluniau ar gyfer trethu llety hunanarlwyo.

Daw hyn ar ôl i’r sectorau twristiaeth a lletygarwch gynnig eu harbenigedd i’r Llywodraeth er mwyn ceisio gwarchod busnesau gwyliau hunanarlwyo rhag canlyniadau anfwriadol y cynigion i dorri i lawr ar berchnogaeth ail gartrefi yng Nghymru.

Daw hyn yn sgil arolwg gan Gynghrair Twristiaeth Cymru, UK Hospitality Cymru a Chymdeithas Broffesiynol Hunanarlwywyr y Deyrnas Unedig o fwy na 1,500 o fusnesau hunanarlwyo ledled Cymru.

Cafodd yr arolwg ei anfon at holl Aelodau’r Senedd, Aelodau Seneddol Cymru, Croeso Cymru a rhanddeiliaid eraill, ac mae’n cynrychioli barn tua chwarter o ddarparwyr gwyliau hunanarlwyo Cymru sy’n berchen ar ryw 8,000 o eiddo.

Y cynigion

Mae Llywodraeth Cymru’n cynnig rheolau llymach ar lety hunanarlwyo sy’n gymwys i dalu cyfraddau busnes yn hytrach na threth y cyngor.

Ar hyn o bryd, mae’n rhaid bod llety hunanarlwyo ar gael i’w roi ar rent am o leiaf 140 o ddiwrnodau dros gyfnod o 12 mis, a bod wedi’i archebu am 70 diwrnod er mwyn bod yn gymwys ar gyfer cyfraddau busnes yn hytrach na threth y cyngor.

O dan y cynnig newydd, rhaid bod llety ar gael am o leiaf 252 o ddiwrnodau a’i archebu am o leiaf 182 i fod yn gymwys ar gyfer cyfraddau busnes, sy’n gynnydd o 160%.

O fis Ebrill y flwyddyn nesaf, bydd unrhyw fusnes nad yw’n bodloni’r trothwy yn gorfod talu treth y cyngor am ail gartref yn hytrach na chyfraddau busnes, a bydd gan awdurdodau lleol yr hawl i gynyddu treth y cyngor o hyd at 300% ar y busnesau hyn.

Mae Cynghrair Twristiaeth Cymru, UK Hospitality Cymru a Chymdeithas Broffesiynol Hunanarlwywyr y Deyrnas Unedig yn galw am:

  • gynyddu’r trothwy ar gyfer busnesau llety gwyliau o 70 i 105 o ddiwrnodau, yn unol â rheolau trethu Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi
  • eithrio eiddo sy’n cael eu cyfyngu gan ganiatâd cynllunio i fod yn llety masnachol tymor byr, megis ffermydd sy’n arallgyfeirio neu adeiladau o fewn ffiniau cartre’r perchennog rhag talu treth gyngor ychwanegol os nad ydyn nhw’n bwrw’r targed o 105 o ddiwrnodau
  • diwygio lwfansau trothwy i ystyried gwelliannau, trwsio’r eiddo a chau oherwydd salwch neu gyfrifoldebau gofalu
  • Yn gyfnewid am hyn, mae Cynghrair Dwristiaeth Cymru, UK Hospitality Cymru a Chymdeithas Broffesiynol Hunanarlwywyr y Deyrnas Unedig yn cynnig cydweithio â chorff Croeso Cymru i wella’r potensial am elw a chynaladwyedd i fusnesau hunanarlwyo drwy godi ansawdd.
  • Maen nhw hefyd yn awyddus i gydweithio â Croeso Cymru, Llywodraeth Cymru a phartneriaid eraill i yrru agenda gwyrdd, carbon sero-isel y sector.

Yr arolwg

Mae’r arolwg yn dangos y bydd y trothwy sy’n cael ei gynnig o ran nifer y diwrnodau mae llety ar gael i’w archebu yn cael effaith “anghymesur” ac economaidd-niweidiol ar y sector hunanarlwyo, bywoliaeth unigolion a chymunedau.

Mae hefyd yn dangos na fydd y newidiadau sy’n cael eu cynnig yn bodloni targed Llywodraeth Cymru o greu mwy o dai fforddiadwy mewn cymunedau lle mae ail gartrefi wedi cynyddu prisiau tai fel eu bod nhw’n rhy ddrud i’r rhan fwyaf o bobol leol.

Daw’r cynigion yng nghanol sgil-effeithiau’r cynnydd mewn prisiau ynni a thanwydd, argyfwng costau byw, agor twristiaeth dramor, prinder staff, costau cyflogi a chaffael uwch, dychwelyd i TAW 20% a’r rhyfel yn Wcráin.

Mae nifer o fusnesau llety gwyliau’n rhybuddio y bydd yn rhaid iddyn nhw gau os caiff y newidiadau arfaethedig eu cyflwyno, ac y gallen nhw werthu’r eiddo i bobol o’r tu allan i Gymru.

‘Mwy o gartrefi gwag nag ail gartrefi’

“Rydyn ni wedi bod yn gwbl glir ers y dechrau fod yr argyfwng tai presennol yn ganlyniad i flynyddoedd o fethiannau gan Lafur i adeiladu digon o dai ledled y wlad,” meddai Tom Giffard, llefarydd diwylliant, twristiaeth a chwaraeon y Ceidwadwyr Cymreig.

“Yn hytrach na cheisio cosbi perchnogion ail gartrefi, rhaid i weinidogion Llafur weithio i fynd i’r afael â’r prinder tai, yn enwedig oherwydd, tan yn ddiweddar, roedd mwy o gartrefi gwag yng Nghymru nag ail gartrefi – a gwarchod yr hyn sydd gan y wlad i’w gynnig o ran twristiaeth.

“Gobeithiwn y bydd y Llywodraeth Lafur yn derbyn y cynnig hwn, ac mae’r Ceidwadwyr Cymreig yn parhau i frwydro dros ein diwydiant twristiaeth drwy gynnal dadl yn y Senedd yr wythnos hon.

“Byddwn ni’n ategu ein galwadau i ollwng y dreth dwristiaeth economaidd-anllythrennog, a chefnu ar y cynlluniau i ymestyn nifer y diwrnod y mae’n rhaid i eiddo gael ei adael er mwyn bodloni’r gofynion annomestig.”