Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru wedi rhoi pedair injan dân i Wcráin.

Ddechrau’r wythnos ddiwethaf, aeth cynrychiolwyr o’r gwasanaeth i’r wlad fel rhan o res hir o gerbydau o’r Deyrnas Unedig sydd yn teithio yno i helpu i ollwng y cerbydau yng Ngwlad Pwyl.

Cyngor Cenedlaethol y Penaethiaid Tân a’r Elusen Cymorth Tân sy’n cydlynu’r daith, a bydd uned arall sy’n ymateb i ddigwyddiadau’n teithio i Wcráin ar Fai 3.

Un o’r rhai fydd yn teithio yno ar ran y gwasanaeth tân yw Chris Doyle.

“Mae pawb yn ymwybodol o’r digwyddiadau trasig yn Wcráin ar hyn o bryd, a dyma ffordd fach y gallwn ni helpu ein ffrindiau a’n cydweithwyr yn Wcráin,” meddai.

“Ein gorchwyl yw ymuno â rhes hirach sydd wedi cael ei threfnu gan Gymorth Tân a Chyngor Cenedlaethol y Penaethiaid Tân, cyn mynd ar draws y cyfandir i gyflwyno’r injanau hyn yng Ngwlad Pwyl.”

‘Torcalonnus’

“Mae’n dorcalonnus gweld a chlywed am ddioddefaint pobol a chymunedau Wcráin,” meddai Ashley Hopkins, Rheolwr Grŵp Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru.

“Pan wnaethon ni geisio mynegiant o ddiddordeb gan wirfoddolwyr o’n gweithlu, i gyflwyno’r pedair injan hyn i Wlad Pwyl, cawson ni lu o geisiadau i wirfoddoli.

“Gobeithio y bydd cyflwyno’r ddwy injan dân a’r ddwy uned ymateb hyn yn helpu gwasanaethau tân Wcráin yn ystod yr amser ofnadwy hwn.”