Mae Janet Finch-Saunders, yr Aelod Ceidwadol o’r Senedd dros Aberconwy, wedi croesawu ymateb Llywodraeth Cymru i’w chais am newid y canllawiau ar osod terfynau cyflymdra yng Nghymru.
Ers cynnal cyfarfod cyhoeddus yng Nghonwy dair blynedd yn ôl i drafod pryderon am y ffyrdd, bu’n galw am newidiadau’n lleol, yn cyhoeddi adroddiadau ac yn galw am newid polisi Llywodraeth Cymru sydd, meddai, yn gadael rhai ardaloedd yn agored i wrthdrawiadau cyn bod camau’n cael eu cymryd i newid y terfynau.
Yn wreiddiol, cadarnhaodd Mark Drakeford, prif weinidog Cymru, ei ymrwymiad i adolygu’r canllawiau o haf 2020 ymlaen ac mae Lee Waters, y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd, bellach yn dweud bod “Llywodraeth Cymru wrthi’n diweddaru’r canllawiau”.
Llythyr
“Rwy’n ysgrifennu mewn perthynas â’r canllawiau Gosod Terfyn Cyflymder Lleol sy’n parhau i atal lleol awdurdodau rhag cymryd camau cadarnhaol a rhagataliol i fynd i’r afael â chyflymder a thraffig ffyrdd eraill pryderon ar hyd priffyrdd cyhoeddus,” meddai Janet Finch-Saunders yn ei llythyr.
“Fel yr wyf yn siŵr y byddwch yn cofio, rwyf eisoes wedi amlinellu fy mhryderon ynghylch canllawiau Llywodraeth Cymru, sy’n rhoi pwyslais ar nifer y gwrthdrawiadau traffig ffyrdd sydd wedi digwydd ar ddarn arbennig o briffordd, yn hytrach na rhoi pwyslais ar y risg o ddamweiniau a nifer y methiannau agos mewn lleoliad.
“Mewn ymateb i’r pryderon hyn, fe’m sicrhawyd gennych y byddai adolygiad o’r canllawiau hyn yn cael eu cynnal o 2020 ymlaen.
“Dewch o hyd i gopi o adroddiad a luniwyd gennyf ar briffyrdd yng Ngorllewin Dyffryn Conwy, sy’n amlygu’r broblem yn eich canllawiau presennol.
“Yn ddiweddar, rwyf wedi codi pryderon gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Conwy (CBSC) ynghylch cyflymder traffig, y risgiau o wrthdrawiad ffordd posibl a nifer y damweiniau a fu bron â digwydd ar hyd y B5106 rhwng Dolgarrog a Threfriw.
“Yn anffodus, mae Cyngor Bwrdeistref Sir Conwy bellach wedi rhoi gwybod i mi am hynny, na weithredir lleihau cyflymder gan fod y rhan hon o’r briffordd yn unol â’r lefel genedlaethol arweiniad.
“O ystyried hyn, rwy’n ysgrifennu i ofyn yn garedig i chi fy hysbysu pryd y bydd yr adolygiad yn cychwyn, yn ogystal â phryd y disgwylir iddo gael ei gwblhau a’i ganfyddiadau’n cael eu cyhoeddi.
“Yn ogystal, hoffwn ofyn i chi fy sicrhau yn ystod yr adolygiad hwn y bydd Llywodraeth Cymru yn ceisio annog a grymuso awdurdodau lleol i gymryd camau gweithredu rhagataliol a chadarnhaol i fynd i’r afael â phriffyrdd cyhoeddus sy’n peri pryder.”
Ymateb Llywodraeth Cymru
Wrth ymateb, cadarnhaodd Lee Waters, y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd, fod y canllawiau’n cael eu diweddaru ar hyn o bryd “i adlewyrchu ei pholisi presennol”, gan gynnwys arbrofi gyda therfyn cyflymdra o 20m.y.a. a bodloni “uchelgais Llwybr Newydd: Strategaeth Trafnidiaeth Cymru 2021”.
“Bydd y canllawiau newydd yn cael eu cyhoeddi yn ddiweddarach eleni, ac mae’n bosib y bydd y gwaith yn gweld newid yn y meini prawf ar gyfer terfynau cyflymdra is yng Nghymru,” meddai.
‘Cyflwyno terfynau is yn seiliedig ar risg’
“Ers blynyddoedd, dw i wedi bod yn lobïo Llywodraeth Cymru i newid eu canllawiau sy’n parhau i atal awdurdodau lleol rhag cymryd camau positif a rhagataliol i fynd i’r afael â chyflymdra a phryderon eraill yn ymwneud â thraffig ffyrdd ar hyd priffyrdd cyhoeddus,” meddai Janet Finch-Saunders.
“Enghraifft allweddol fod canllawiau Llywodraeth Cymru’n llesteirio’r cynlluniau ar gyfer gostwng terfynau cyflymdra’n bositif yw’r ffaith nad yw Cyngor Bwrdeistref Sir Conwy ar hyn o bryd yn gallu cyflwyno gostyngiad ar hyd y B5106 rhwng Dolgarrog a Threfriw oherwydd y canllawiau cenedlaethol.
“Ar draws Aberconwy, mae gennym lonydd gwledig â therfynau o 60m.y.a. sy’n peryglu bywydau.
“Rwy’n falch fod y prif weinidog wedi cydnabod fy adroddiad fod y pwyslais yn cael ei roi ar nifer y gwrthdrawiadau yn hytrach na’r risg a methiannau agos.
“Amser a ddengys a fydd y canllawiau diwygiedig yn galluogi awdurdodau lleol i gyflwyno gostyngiadau cyflymdra yng Nghymru yn seiliedig ar risg.”