Mae canlyniad etholiad arlywyddol Ffrainc yn “rhyddhad” i Lydaw, yn ôl arbenigwr ar ddiwylliant y wlad.
Yn ôl Dr Heather Williams o’r Ganolfan Uwchefrydiau Celtaidd, mae’n newyddion da i leiafrifoedd yn Ffrainc na fydd Marine Le Pen yn dod i rym.
Er hynny, mae hithau a’r hanner-Llydäwr Aneirin Karadog yn gytûn ei bod hi’n fwy o stori ynghylch y ffaith nad enillodd yr adain dde eithafol yn hytrach na balchder bod Emmanuel Macron am fod mewn grym am bum mlynedd arall.
Dydy hi ddim syndod bod yr Arlywydd Macron wedi ennill mwyafrif amlwg o’r bleidlais yn Llydaw chwaith, meddai Heather Williams wrth golwg360.
Enillodd e’r etholiad gyda 58.55% o’r bleidlais, o gymharu â 41.45% i Le Pen.
Ac er bod y gwahaniaeth yn fwy na’r disgwyl, roedd yr etholiad yn “fuddugoliaeth” iddi, meddai Marine Le Pen gan ei bod hi wedi sicrhau cyfran sylweddol o’r bleidlais.
“Er bod Macron yn gryfach na’r asgell dde eithafol yn Llydaw, mae Le Pen wedi ennill peth tir o gymharu â 2017,” meddai Dr Heather Williams wrth golwg360, a hithau’n gymrawd ymchwil yn y Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd ac yn arbenigo ar lenyddiaeth a diwylliant Llydaw.
“Hynny yw, mae’n newyddion da yn yr ystyr o ryddhad, nid yn yr ystyr y gallwn ni ddathlu bod pethau’n mynd i’r cyfeiriad cywir.
“O ran gwleidyddiaeth chwith-dde a’r gobaith am sefydlogrwydd yn Ewrop ac ati, dyw pethau ddim yn edrych yn wych ond maen nhw’n well na’r ofnau.
“Roedd yna dipyn o ofid y tro hwn. Rydyn ni wedi cael Le Pen yn yr ail rownd o’r blaen, ddwywaith, ond dw i ddim yn meddwl bod yr ofn yna’r troeon hynny… yr ofn y gallai hi [neu ei thad] ennill.
“Mae’n amlwg bod Llydaw wedi pleidleisio’n gryfach dros Macron na chyfartaledd Ffrainc, mae hynny’n ffaith a dyw hynny ddim yn syndod chwaith o edrych ar y darlun hanesyddol.”
Llydaweg ac addysg
Yn ôl Heather Williams, mae’n siŵr bod ymateb Marine Le Pen wedi dylanwadu ar y ffordd y gwnaeth cenedlaetholwyr Llydaweg bleidleisio eleni.
“Roedd Diwan, sef y mudiad dros addysg Lydaweg, yn poeni bod Marine Le Pen yn erbyn dysgu Llydaweg tu fewn i’r system addysg yn Ffrainc,” meddai.
“Roedden nhw wedi cylchredeg cyfweliad gyda hi, lle gofynnwyd iddi am ei barn am Lydaweg… meddai hi ‘Mae Llydaweg yn grêt, ond ddim o fewn y system addysg’. Ffordd o ddweud ei bod hi yn erbyn Llydaweg!
“Mae yna eironi fan hyn, y gair Llydaweg ‘Pen’ ydy’r gair Cymraeg ‘pen’. Mae ei theulu hi o dras Lydewig. Cafodd ei thad, Jean-Marie Le Pen, sylfaenydd y blaid Rassemblement National, ei eni’n Llydaw.
“Roedd y sylwadau wnaeth hi am Lydaweg yn rhai cyffredinol am ieithoedd rhanbarthol Ffrainc i gyd.
“Fe wnaeth Macron ateb cwestiynau gan un o’r mudiadau iaith wythnos diwethaf, lle holwyd e am safle’r Llydaweg o fewn y system addysg.
“Fe wnaeth e ateb y llythyr yn ffurfiol yn dweud ei fod e o blaid cadw’r Llydaweg o fewn y system addysg, a’i fod e’n barod i ailedrych ar y posibilrwydd o gymeradwyo siarter ieithoedd lleiafrifol.
“Mae e wedi gwneud yr addewid hyn, ond dw i’n meddwl y bydd Llydäwyr yn ddrwgdybus iawn o’r addewid achos dyna beth ddigwyddodd efo Deddf Molac… roedd popeth yn edrych yn obeithiol iawn am ychydig, wedyn aeth y ddeddf i ryw bwyllgor arall anetholedig a dyna oedd diwedd y peth.
“Dyw pobol ddim yn credu addewidion Macron, ond wrth gwrs, roedd ei ateb e’n well nag ateb Le Pen.”
Aduno Llydaw
Er hynny, mae agwedd Marine Le Pen tuag at aduno Llydaw yn “llawer mwy agored”, meddai Heather Williams.
“Mae yna bedwar rhanbarth, neu départements, yn cael eu cyfri yn Llydaw,” meddai.
“Ond yn hanesyddol, dylai bod yna bump fyddai’n cynnwys Nantes, neu Naoned. Naoned yw prifddinas hanesyddol Llydaw, ond mae ardal Naoned yn rhanbarth Loire-Atlantique, sy’n golygu dim byd… mae e wedi cael ei enwi ar ôl y môr a’r afon.
“Mae yna ymdrech wedi bod yn Llydaw ers blynyddoedd lawer am aduno Llydaw i gael pump département yn lle pedwar.
“Ar y cwestiwn hwnnw, roedd Marine Le Pen llawer mwy agored. Doedd hi ddim yn erbyn y syniad yna.”
‘Cryn waith i’w wneud’
Wrth ymateb i’r canlyniad o safbwynt Llydaw, dywed y bardd Aneirin Karadog fod pobol yn aml yn dewis “yr opsiwn sydd ddim mor wael”.
“Er bod Macron ei hunan wedi bod yn gwneud synau mwy cadarnhaol neu gymodlon ynglŷn ag ieithoedd lleiafrifol yn Ffrainc, dyw gweinidog addysg ei lywodraeth e’n sicr heb arddangos hynny ac mae e wedi bod yn elyniaethus iawn ac wedi achosi cryn drafferth i’r Llydaweg,” meddai wrth golwg360.
“Mae Macron yn gwneud y synau iawn ynglŷn â bywyd bob dydd yn Ffrainc i Ffrancwyr ac i Lydäwyr, a bod e’n mynd i ymdrechu i beidio gadael neb ar ôl… dyw e ddim wedi bod yn dangos arlliw o hynny, mewn gwirionedd.
“Buddiannau cyfalafol yr élit, efallai, sy’n bennaf yn ei feddwl e. Felly, mae cryn waith gyda fe i’w wneud os yw e am gyflawni’r hyn mae e’n addo’r tro hyn.
“Mae cost byw wedi bod yn fater yn Llydaw ers y pum mlynedd mae Macron wedi bod yn arlywydd yn barod, ac yn fwy o beth, efallai, yn y blynyddoedd diwethaf nag yw e ym Mhrydain.
“Mae’n sicr yn newydd da i Lydaw bod Marine Le Pen ddim mewn grym.
“Alla i ddychmygu os ydy pethau’n wael i ddiwylliant Llydaweg a Gallo, yr iaith arall yn Llydaw, dan Macron, galle fe ond bod ganwaith gwaeth dan Marine Le Pen achos mae ei gweledigaeth hi yn llawn cenedlaetholdeb fyddai’n canoli grym ym Mharis ac, efallai, yn diddymu unrhyw hawliau mae’r ieithoedd lleiafrifol wedi’u hennill mor belled. Mae’n rhaid inni ymfalchïo yn hynny.”
Er hynny, mae’n “bryder” bod yr adain dde eithafol wedi ennill dros 40% o’r bleidlais, meddai.
“Mae fy rhieni [sy’n byw yn Llydaw] yn adnabod pobol yn eu cymdogaeth sy’n cefnogi Le Pen am nad ydy Macron yn sefyll lan dros eu buddiannau nhw, nid o reidrwydd, efallai, am fod ganddyn nhw ddaliadau eithafol fel sydd gyda hi.
“Mae yna bobol yn ein cymunedau ni yn Llydaw sy’n pleidleisio drosti, ac yn sicr mae eisiau mynd at wraidd hynny.”
Dathlu diwylliannau i uno Ffrainc
Mae Emmanuel Macron wedi addo uno Ffrainc, gwlad sy’n “fwy rhanedig nag erioed”, meddai Aneirin Karadog.
“Mae’n rhyfedd o beth i’w ddweud achos mae prosiect Ffrainc fel gwladwriaeth wedi bod yn hynod o lwyddiannus, yn enwedig ers yr Ail Ryfel Byd pan ailgodwyd y wlad dan [Charles] de Gaulle yn sgil lludw’r Ail Ryfel Byd.
“Maen nhw wedi creu ryw fath o genedl Ffrengig, unedig, hynod o lwyddiannus sydd wedi sgubo’r hunaniaeth genedlaethol fyddai gan lefydd fel Llydaw, Occitania, Gwlad y Basg, Alsace a Corisca ac yn y blaen, o’r neilltu.
“Mae pobol wir yn teimlo’n Ffrancwyr, gan fwyaf.
“Felly, mae dweud bod Ffrainc yn wlad ranedig yn beth rhyfedd yng ngolwg hynny, ond mae yna raniadau mawr ac mae’n fwy cymhleth na jyst y cenhedloedd hanesyddol hefyd sy’n creu gwladwriaeth Ffrainc.
“Mae’r boblogaeth sydd wedi dod mewn i’r wlad yn ceisio bywyd gwell ac yn cyfrannu mewn ffordd gyfoethog i fywyd Ffrainc… wel, dyw Marine Le Pen yn amlwg ddim yn croesawu’r math yna o gyfeiriad i dwf y boblogaeth a datblygiad y wlad.”
Mae costau byw ac anghyfartaledd cymdeithasol yn cyfrannu tuag at y rhaniadau, meddai Aneirin Karadog.
“[Ond] mae Ffrainc o ran ei thiriogaeth yn wlad enfawr, ac mae gwladwriaeth Ffrainc, er ei bod hi wedi bod yn llwyddiannus be mae hi wedi gwneud yw anwybyddu’r ffaith ei bod hi yn wlad sydd yn llawn o ddiwylliannau gwahanol.
“Yn hytrach na dathlu’r diwylliannau hynny mewn ffordd a fyddai efallai’n gallu gwneud i bobol deimlo’n fwy unedig, maen nhw’n gwasgu hunaniaeth Ffrengig Paris ar bawb arall. A dyw hynny, efallai, ddim yn ffordd sy’n dod â phobol gyda chi, felly efallai bod hynny’n rhan o’r broblem.”