Yn gyn-athro Gwyddoniaeth, roedd Ioan Richard yn gynghorydd sir yn Abertawe am 41 o flynyddoedd, ac mae’n gyn-Arglwydd Faer y ddinas. Roedd yn cefnogi Plaid Cymru yn ystod cyfnod Gwynfor Evans a Dafydd Wigley, ond fe aeth yn annibynnol ar ôl i gyfnod Dafydd Wigley wrth y llyw ddod i ben. Mae’n awdur sydd wedi ysgrifennu’n helaeth am bolisïau ynni’r pleidiau gwleidyddol, ac yn hanesydd lleol. Yma, mae’n pwyso a mesur y syniad o ailgyflwyno fferi rhwng Abertawe a Dyfnaint…

 

Mae angen i bawb gofio fod y syniad hwn am y fferi, sydd i’w groesawu, wedi codi unwaith eto o ganlyniad i fentergarwch Selaine Saxby, Aelod Seneddol Ceidwadol Gogledd Dyfnaint, ac nid Rob Stewart, arweinydd Llafur Cyngor Abertawe. Mae e wedi hybu’r peth y tu hwnt i bob synnwyr o gymesuredd at ddibenion ei etholiad ei hun.

Meddai erthygl, “Mae’r cynlluniau ar gyfer gwasanaeth fferi de Cymru i Ddyfnaint a Chernyw, wedi’i bweru gan hydrogen, wedi cael eu datgelu. Mae Cyngor Llafur Abertawe’n cynllunio gwasanaeth fferi gwyrdd newydd dros Fôr Hafren i Ddyfnaint a Chernyw. Byddai’r hwb newydd mawr i dwristiaeth a busnes yn gweld fferis wedi’u pweru gan hydrogen yn croesi’n rheolaidd rhwng de Cymru a de-orllewin Lloegr.

“Ar y cyd â chynghorau yn ne-orllewin Lloegr, byddai Cyngor Abertawe’n helpu i ddarparu un o’r canolfannau allweddol ar gyfer y gwasanaeth fferi. Mae hwn yn brosiect cyffrous ac rydym wedi cynnal nifer o gyfarfodydd ymchwil gyda chyngorau yn y de-orllewin a byddwn ni’n gallu cyhoeddi rhagor o fanylion ar ôl yr etholiadau ym mis Mai,” meddai Rob Stewart, arweinydd Cyngor Abertawe.

“Bydd hyn yn hwb enfawr i dwristiaeth a busnesau – o feddwl y gallech chi dorri eich amser teithio i Ddyfnaint a Chernyw yn ei hanner, ac wrth gwrs fe fyddai manteision amgylcheddol iddo hefyd: tynnu ceir oddi ar y ffyrdd a chyflwyno fferis gwyrdd.”

Does dim isadeiledd o gwbl o Avonmouth i lawr i Land’s End sy’n gallu cynnal y fath long. Mae’n rhaid bod Rob Stewart a Llafur Abertawe’n credu ein bod ni i gyd yn hawdd ein twyllo! Mae Ceidwadwyr Dyfnaint o ddifri am gael Fferi Teithwyr Troed fach yn rhedeg yn rheolaidd o Abertawe i Ogledd Dyfnaint (fwy na thebyg i Ilfracombe) fydd yn gallu cludo 40 i 80 o deithwyr ar droed, ond yn drist iawn, dim cerbydau.

Dylem oll groesau’r fath gyfleuster, ond peidio â’i orbwysleisio fe fel mae Llafur Abertawe wedi’i wneud, jyst er lles Etholiadau’r Sir yma ar Fai 5. Bydd trafodaethau trawsbleidiol a thros Fôr Hafren yn dechrau yr wythnos hon. Gadewch i ni obeithio eu bod nhw’n cael eu cefnogi gan bawb ac yn dwyn ffrwyth.