Mae Syr Ed Davey, arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol, yn galw am weithredu er mwyn mynd i’r afael â charthion yn afonydd Cymru.
Bu Ed Davey yn ymweld â’r Gelli Gandryll gydag arweinydd y blaid yng Nghymru, Jane Dodds, dros y penwythnos, gan gymryd rhan mewn sesiwn i fonitro llygredd yn Afon Gwy.
Dywed mai un o brif flaenoriaethau’r blaid yw rhoi pwysau ar Lywodraeth Cymru a chwmnïau dŵr i stopio carthion heb eu trin rhag cael eu rhyddhau i ddyfroedd Cymru.
Yn ôl arweinydd y blaid ledled y Deyrnas Unedig, byddan nhw’n ymgyrchu i ostwng trethi i bobol sy’n gweithio, stopio llygredd mewn afonydd a rhoi mwy o gymorth i bobol sy’n cael trafferth talu biliau gwres yn ystod yr etholiadau lleol fis nesaf.
“Rydyn ni wedi bod yn trio gwthio am fesurau yn Senedd y Deyrnas Unedig i orfodi cwmnïau dŵr i stopio’r arfer [o bwmpio carthion i ddyfroedd], ond mae’r Ceidwadwyr wedi bod yn pleidleisio yn erbyn ein cynigion sydd, yn ein barn ni, yn rhesymol a chall iawn,” meddai Syr Ed Davey.
“Dw i’n gwybod fod Jane wedi bod yn codi’r un materion yn y Senedd.
“Dros Gymru, mae ein hymgeiswyr yn sefyll er mwyn amddiffyn amgylchedd naturiol lân Cymru.
“Mae’r hyn sy’n digwydd i Afon Gwy ac afonydd eraill dros Gymru yn sgandal cenedlaethol.
“Mae hi hyd yn oed yn fwy o sgandal bod rheolwyr Dŵr Cymru wedi gwobrwyo eu hunain â dros £900,000 mewn tâl ychwanegol dros y ddwy flynedd ddiwethaf er eu bod nhw’n parhau i bwmpio carthion heb eu trin i ddyfroedd Cymru.”
‘Gwahardd taliadau ychwanegol’
Dim ond dwy flynedd sydd gan Afon Gwy ar ôl nes y bydd yn fiolegol farw, ac mae lefelau uchel o lygredd peryglus wedi cael eu canfod ymhob rhan o’r afon bron.
Mae cwmnïau dŵr yn gollwng carthion i’r dyfroedd yn un rheswm, yn ogystal â chynnydd mawr yn nifer y ffermydd ieithoedd yn yr ardal gan fod eu baw yn llifo i’r afonydd ac achosi i algae dyfu gan ladd planhigion, sy’n effeithio ar bysgod ac adar yn eu tro.
Ychwanega Jane Dodds fod y gwaith ddangosodd y gwyddonwyr iddyn nhw yno yn “anhygoel”.
“Ond rhaid inni beidio ag anghofio na ddylen nhw fod yn gorfod gwneud y gwaith,” meddai.
“Rydyn ni’n galw ar Lywodraeth Cymru i wahardd taliadau ychwanegol i reolwyr carthion tra eu bod nhw’n parhau i lygru ein hafonydd.
“Rydyn ni hefyd eisiau gweld Llywodraeth Cymru’n darparu’r arian sydd ei hangen ar Gyfoeth Naturiol Cymru i wneud eu gwaith hefyd.”
Dywed Jane Dodds hefyd fod y blaid yn herio meysydd lle mae pethau wedi mynd yn “anhrefn” i’r Ceidwadwyr Cymreig, yn ogystal â chynghorau lle mae Llafur wedi bod mewn grym ers degawdau, yn ystod yr etholiadau lleol.
“Yn nifer o’r llefydd hynny, mae’r Ceidwadwyr wedi methu â chynnig gwrthwynebiad sy’n canolbwyntio ar bryderon gwirioneddol cymunedau,” meddai.
“Dros Gymru, mae pobol wedi cael digon o gael eu cymryd yn ganiataol, boed oherwydd amseroedd aros ambiwlansys ofnadwy neu dyllau yn y ffordd ddim yn cael eu llenwi, mae pobol eisiau newid.”