Mae “agweddau afiach o ragfarnllyd yn erbyn Angela Rayner yn tramgwyddo pob menyw mewn bywyd cyhoeddus”, yn ôl Liz Saville Roberts, sy’n galw am ymchwiliad i sylwadau gan Geidwadwyr anhysbys.
Daw sylwadau arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan ar ôl i wleidyddion fod yn condemnio awgrym yn y Mail on Sunday fod aelodau seneddol Ceidwadol yn dweud bod Angela Rayner, dirprwy arweinydd y Blaid Lafur, yn ceisio tynnu sylw Boris Johnson yn Nhŷ’r Cyffredin drwy groesi a dangos ei choesau.
Fe wnaeth Angela Rayner wfftio’r honiadau fel enghraifft o “bardduo” sy’n dangos rhagfarn yn erbyn menywod mewn gwleidyddiaeth.
“Mae agweddau afiach o ragfarnllyd yn erbyn Angela Rayner yn tramgwyddo pob menyw mewn bywyd cyhoeddus,” meddai Liz Saville Roberts wrth golwg360, gan alw am ymchwiliad.
“Cywilydd ar yr aelodau seneddol Torïaidd di-enw ac ar y Mail on Sunday am eu cyhoeddi.
“Nid yw beirniadaeth drwy drydariad yn ddigon – rhaid i Boris Johnson a’r Blaid Geidwadol ymchwilio i’r sylwadau hyn a chosbi’r rhai sy’n gyfrifol.
“Os ydym am ddysgu bechgyn bod rhagfarn yn erbyn menywod yn anghywir, rhaid dwyn y math hwn o ymddygiad i gyfrif.
“Ni ddylen ni ychwaith dderbyn yr agweddau elitaidd hen-ffasiwn yn yr erthygl hon ac sy’n parhau i fod yn rhemp yn San Steffan.
“Mae perfformiad trychinebus Boris Johnson dros y misoedd diwethaf yn dystiolaeth yn ei hun nad yw addysg ddrud a llwy arian yng ngheg rhywun yn ddigon i wneud arweinydd o ansawdd.”