Bydd tair o fenywod o bentref Llanfrothen yng Ngwynedd yn rhannu eu gwaith, eu diwylliant a’u bywydau ag ymwelwyr mewn cwrs deuddydd newydd.
Fel rhan o’r Profiad Cefn Gwlad, bydd tair sydd wedi’u magu yn yr ardal yn rhoi cyflwyniad ymarferol i’r iaith Gymraeg, peintio’r tirlun o’u cwmpas, a ffermio cynaliadwy Cymreig.
Y bwriad gan y tiwtor Cymraeg Llinos Griffin, y ffarmwraig Olwen Ford a’r artist Sian Elen yw cynnig “profiad gwirioneddol o fywyd yng nghefn gwlad Cymru tu hwnt i’r siopau hufen iâ a’r llwybrau cerdded prysur”.
Bydd y cyrsiau yn cael eu cynnal ar fferm hanesyddol Fferm y Llan yn Llanfrothen rhwng y môr ym Mhorthmadog a mynyddoedd Eryri, lle mae Olwen Ford yn ffermio defaid a gwartheg.
Gyda’r nod o “gynnig y gorau o fyd Cymru wledig”, bydd tri chwrs deuddydd yn cael eu cynnal dros dri phenwythnos ym misoedd Gorffennaf, Awst a Hydref.
‘Plymio i’r ffordd Gymraeg o fyw’
Mae teulu Olwen Ford wedi bod yn ffermio yn Fferm y Llan ers tair cenhedlaeth, a dywed fod y cwrs yn “brofiad perffaith i unrhyw un sydd eisiau plymio i mewn i’r ffordd Gymreig o fyw”.
“Yn syml, rydan ni’n ferched Cymraeg balch sy’n browd iawn o le rydyn ni’n byw,” meddai Olwen Ford, sy’n arbenigo mewn magu bridiau cynhenid a phrin.
“Yn fan hyn, mae’r iaith, y tirlun a’r tir yn dod law yn llaw.
“Yn ogystal â gwaith o ddydd i ddydd ar y fferm, dw i’n cynnig cyrsiau gwlân yn Fferm y Llan yn rhoi blas i ymwelwyr o hen draddodiadau fel troelli a chardio, yn defnyddio cnu fy nefaid wrth gwrs ac mae pobol wrth eu boddau’n rhoi cynnig arni ac yn deall pwysigrwydd gwlân fel defnydd cynaliadwy, ond hefyd dw i’n dysgu pobol am fy fferm, hanes fy nheulu a’n tir amrywiol – mae ein caeau yn frith o flodau gwyllt a pherlysiau sy’n dod ag amryw o adar gwahanol – yr ehedydd, cyffylog, barcud coch.
“Mae un rhan o chwech o’n tir yn dderw hefyd. Wrth gwrs, mae ein Profiad Cefn Gwlad yn golygu y bydd ymwelwyr yn gallu archwilio’r ffarm trwy lygad artist efo Sian a hefyd dysgu’r enwau Cymraeg am y pethau sydd i’w gweld yn yr ardal.
“Maen brofiad perffaith i unrhyw un sydd eisiau plymio i mewn i’r ffordd Gymreig o fyw ac mae’r grwpiau sydd wedi bod i lawr ar y fferm yn barod yn gadael efo gwen ar eu hwynebau, gwaith celf neu grefft maen nhw wedi ei greu a gwir deimlad o ddiwylliant y Gymru wledig.”
Mae’r Profiad Cefn Gwlad yn rhan o gymuned fusnes Byw.Bod sy’n hyrwyddo busnesau a phrofiadau lleol yng Nghroesor, Llanfrothen, a Phenrhyndeudraeth ac mae rhagor fanylion am y cwrs ar eu gwefan.