Mae arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig yn honni bod gan Lywodraeth Cymru fwy o ddiddordeb mewn materion “woke” na “phroblemau bob dydd”.
Daw sylwadau Andrew RT Davies gan fod Llywodraeth Cymru wedi gwario £150,000 ar bedwar swyddog amrywiaeth y llynedd.
Dangosodd cais Rhyddid Gwybodaeth fod yna bedwar o staff sy’n “llwyr gyfrifol neu’n bennaf gyfrifol am faterion amrywiaeth o fewn Llywodraeth Cymru”.
Yn ôl Andrew RT Davies, mae gwario’r arian ar y swyddi hynny yn dangos “diffyg persbectif a blaenoriaeth llwyr gan Lywodraeth Cymru pan ddaw at wario arian cyhoeddus”.
Dangosodd Adroddiad Cydraddoldeb Cyflogwr Llywodraeth Cymru ar gyfer 2020/21 fod y gyfradd basio ar gyfer rhaglenni Apwyntiadau Tymor Penodedig y gwasanaeth sifil yn is ar gyfer:
- ymgeiswyr o du, Asiaidd, ac ethnig leiafrifol o gymharu â phobol wyn (12% o gymharu â 18%).
- ymgeiswyr o rhywioldeb lleiafrifol o gymharu â phobol heterorywiol (11% o gymharu â 18%)
- ymgeiswyr ag anableddau o gymharu ag ymgeiswyr heb anableddau (15% o gymharu â 18%).
“Ar y cyfan (fel cyfartaledd dros yr holl raglenni), ni wnaethom ni, yn gyffredinol, gwrdd â’r targedau newydd y cytunwyd arnyn nhw yn 2021,” meddai.
Mae 91% o weithlu Llywodraeth Cymru yn wyn, a dim ond 3% sy’n dweud eu bod nhw o ethnigrwydd arall.
Wnaeth 6% o’r gweithlu ddim ateb y cwestiwn, neu roedd hi’n well ganddyn nhw beidio â dweud.
Dangosodd yr adroddiad fod llai na 200 o’r 2,700 o geisiadau swyddi allanol gafodd Llywodraeth Cymru yn y flwyddyn honno wedi dod gan bobol nad oedd yn wyn.
‘Dim canlyniadau cadarnhaol’
“Dydy £150,000 ddim am ddatrys yr argyfwng costau byw – ond mae gwario arian ar swyddi woke, gorniferus yn dangos diffyg persbectif a blaenoriaeth llwyr o fewn Llywodraeth Cymru pan ddaw at wario arian cyhoeddus,” meddai Andrew RT Davies.
“Nid yn unig hynny, ond mae’n ymddangos nad yw cael swyddogion amrywiaeth yn cynhyrchu canlyniadau cadarnhaol, gydag unrhyw gynnydd yn digwydd yn araf iawn.
“Dw i’n meddwl bod gwario cymaint â hyn ar gymaint â hyn o bobol i ddweud wrth y Llywodraeth Lafur y dylen nhw fod yn cyflogi pobol ar sail eu nodweddion demograffig yn hytrach nag ar sail cynnwys a rhinweddau eu cymeriad yn awgrymu bod yna rywbeth mawr o’i le o fewn eu harferion recriwtio, neu eu bod nhw’n poeni mwy am ddangos eu bod nhw’n gwneud y peth iawn yn hytrach na llwyddo i gael y canlyniad ei hun.”
Ymateb Llywodraeth Cymru
“Rydym eisiau bod yn sefydliad sy’n adlewyrchu holl amrywiaeth Cymru,” meddai llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru.
“Dylai ein staff allu bod yn nhw eu hunain yn y gweithle wrth inni gyflawni ein hymrwymiadau i adeiladu Cymru gryfach, decach a gwyrddach.
“Mae’r swyddi hyn yn chwarae rhan hanfodol wrth wneud i hyn ddigwydd.”