Fe wnaeth trais difrifol gynyddu bron i 25% yng Nghymru a Lloegr ar ôl i gyfyngiadau’r cyfnod clo gael eu llacio, yn ôl adroddiad newydd.

Yn ôl amcangyfrifon Grŵp Ymchwil Trais Prifysgol Caerdydd, aeth 146,356 o bobol i Adrannau Damweiniau ac Achosion Brys yn sgil anaf oedd yn gysylltiedig â thrais yn 2021.

Roedd hynny’n gynnydd o 23% o gymharu â 2020, y naid fwyaf ers dechrau cadw cofnodion yn 2001, gyda’r lefelau ar eu huchaf ym mis Awst, gan gyrraedd lefelau cyn y pandemig bryd hynny.

Fodd bynnag, roedd cyfraddau cyffredinol trais difrifol yn is yn 2021 na chyn y pandemig, gyda thueddiadau hirdymor yn dangos gostyngiad cyson.

Er gwaethaf pryderon y gallai cyfyngiadau Covid-19 fod wedi cynyddu’r risg y byddai mwy o fenywod a merched yn dioddef trais difrifol, wnaeth yr ymchwilwyr ddim dod o hyd i unrhyw dystiolaeth i awgrymu hynny.

‘Cynnydd sylweddol’

Dywed yr Athro Jonathan Sherpherd, cyd-awdur yr adroddiad, fod llacio’r cyfyngiadau ar ôl y cyfnodau clo yng Nghymru a Lloegr yn gysylltiedig â’r cynnydd mwyaf mewn trais difrifol yn ystod un flwyddyn ers i’r cofnodion ddechrau 21 mlynedd yn ôl.

“Roedd cysylltiad rhwng llacio’r cyfyngiadau yn 2021 a chynnydd sylweddol mewn trais difrifol; erbyn mis Awst, cyrhaeddwyd lefelau cyn y pandemig,” meddai.

“Ein data yw’r unig fesur cyffredinol o drais difrifol yn ystod y pandemig ac mae’n dystiolaeth o sut yr effeithiodd y cyfyngiadau ar hyn oll yn ystod y cyfnod dan sylw.

“Mae ein canfyddiadau hefyd yn cyfeirio at flaenoriaethau atal, megis targedu adnoddau’r heddlu yn gynharach ac yn fwy manwl gywir mewn mannau sydd wedi’i nodi mewn data gan Adrannau Damweiniau ac Achosion Brys, yn llefydd lle ceir cryn broblemau o ran trais.

“Heb y wybodaeth fanwl hon, nid yw’r heddlu’n ymwybodol o bryd a ble mae hanner y trais difrifol hwn yn digwydd.”

Ystadegau

Dangosodd y data a gafodd ei gasglu o 74 o unedau brys fod 27,745 yn fwy o bobol wedi mynd i gael triniaeth yn sgil anafiadau yn gysylltiedig â thrais yn y flwyddyn hyd at 31 Rhagfyr 2021.

Roedd cynnydd sylweddol ym mhob grŵp oedran – 42% ymhlith plant hyd at ddeg oed, 20% ymhlith pobol ifanc 11 i 17 oed, 29% ymhlith pobol 18 i 30 oed, 20% ymhlith pobol 31 i 50 oed, a 16% ymhlith pobol dros 50 oed.

Dynion oedd â’r risg uchaf o anaf yn gysylltiedig â thrais, gyda lefel risg o 3.38 i bob 1,000 o drigolion. Roedd hynny dros ddwywaith y risg i fenywod.

Ychwanega’rr Athro Jonathan Shepherd fod asesiad gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig yn 2019 yn dangos, pe bai 5% o bartneriaethau diogelwch cymunedol yn defnyddio data Adrannau Damweiniau ac Achosion Brys i lywio eu gwaith, y byddai’n arbed bron i £1bn mewn deng mlynedd.

“Nid yw trais difrifol yn beth anochel, mae modd ei atal,” meddai.