Wrth i Lywodraeth Cymru gyhoeddi camau tuag at wahardd therapi trosi yng Nghymru, mae’r Ceidwadwyr Cymreig yn galw am waharddiad ar unwaith.

Daw hyn ar ôl i Hannah Blythyn, y Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol, gyhoeddi bod y Gwasanaeth Iechyd wedi llofnodi Memorandwm o Ddealltwriaeth ar gyfer gwaharddiad.

Dywed Llywodraeth Cymru mai eu huchelgais yw mai Cymru yw’r genedl fwyaf cyfeillgar yn Ewrop i bobol o’r gymuned LHDTC+ “lle na chaiff unrhyw un ei adael ar ôl”.

“Yn ogystal â cheisio cyngor cyfreithiol i ddarganfod yr holl ddylanwad sydd gennym yng Nghymru i roi terfyn ar yr arfer o therapi trosi drwyddi draw, byddwn yn addysgu a chodi ymwybyddiaeth o erchyllterau ac aneffeithiolrwydd arferion therapi trosi drwy sefydlu ymgyrch benodedig yng Nghymru.

“Ochr yn ochr â hyn, bydd gwaith yn cael ei gwblhau i ddeall yn well effaith therapi trosi ar oroeswyr i alluogi gwasanaethau cymorth i gael eu gwella, a byddwn yn sefydlu gweithgor o arbenigwyr, sy’n cynnwys cynrychiolwyr o gymunedau ffydd, y sector iechyd a gofal cymdeithasol, a chynrychiolwyr plant a phobol ifanc, ochr yn ochr â phobol LHDTC+ i helpu gyda’r gwaith hwn a chynghori ar elfennau allweddol wrth i waharddiad gael ei ddatblygu.”

Ychwanega Dr Frank Atherton, Prif Swyddog Meddygol Cymru, a Judith Paget, prif weithredwr Gwasanaeth Iechyd Cymru, eu bod yn “unedig” yn eu hymdrechion i sicrhau bod yr arfer yn dod yn anghyfreithlon, “gan gredu y bydd hyn yn cynnig cyfle pwysig i gefnogi’r sawl sy’n wynebu’r risg o therapi trosi yn ogystal â dioddefwyr a goroeswyr”.

‘Pam ddim bwrw ymlaen a’i wahardd?’

Wrth ymateb, mae’r Ceidwadwyr Cymreig yn cwestiynu pam nad yw Llywodraeth Cymru wedi bwrw ymlaen â’r gwaharddiad ar unwaith.

“Dydy bod yn aelod o’r gymuned LHDTC+ ddim yn salwch i’w wella, a rhaid croesawu unrhyw gamau y gallwn ni eu cymryd i wahardd therapi trosi am byth,” meddai Altaf Hussain, llefarydd cydraddoldebau’r Ceidwadwyr Cymreig.

“Fodd bynnag, yn hytrach na llofnodi Memorandwm o Ddealltwriaeth i wahardd therapi trosi, pam nad yw’r Llywodraeth Lafur ym Mae Caerdydd wedi bwrw iddi ac wedi ei wahardd?

“Rwy’n ofni fod hyn ddim ond yn enghraifft arall o Lafur yn gwneud y synau cywir i gyd – yn enwedig gydag etholiad ychydig dros wythnos i ffwrdd – ond peidio â gwneud unrhyw beth ystyrlon yn ei gylch.”