Mae Coleg Cambria wedi sefydlu cwrs newydd i gefnogi perchnogion busnes sy’n ceisio rheoli staff hybrid neu sy’n gweithio o bell o ganlyniad i Covid-19.

Ysgol Fusnes Llaneurgain, sy’n rhan o Goleg Cambria, fydd yn cyflwyno’r rhaglenni Lefel 4 a 5, sydd wedi’u hanelu at gyfarwyddwyr, rheolwyr uwch a staff adnoddau dynol fu’n wynebu heriau digynsail wrth orfod symud i weithio o bell yn ystod y cyfnod clo.

Bydd 11 sesiwn yr un ar gyfer Lefel 4 a 5, gyda Lefel 4 yn para tan Awst 3 a Lefel 5 yn rhedeg rhwng Mai 3 a Thachwedd 1.

Cyn Covid, roedd llai na 10% o weithwyr y Deyrnas Unedig yn gweithio o bell ond erbyn hyn, mae hyd at draean o gwmnïau wedi addasu i gynnig systemau hybrid i’w holl staff, sy’n golygu bod rhai gweithwyr yn treulio deuddydd neu dridiau’n gweithio o bell, mewn ystafell sbâr neu swyddfa dros dro.

Cyfnod digynsail

Yn ôl Jane Keys, Pennaeth Cynorthwyol Ymgysylltu â Chyflogwyr yn yr Ysgol Fusnes, mae sefydliadau wedi ymdopi’n dda o dan yr amgylchiadau, ond fod rhai o hyd sy’n ei chael hi’n anodd goruchwylio unigolion a thimau ar-lein.

“Does dim byd gwell na rheoli pobol wyneb yn wyneb, ond pan darodd y pandemig y Deyrnas Unedig, newidiodd hynny’n gyflym, prin oedd yr amser oedd ar gael i baratoi ar ei gyfer a doedd dim cynsail o ran beth i’w wneud nesaf,” meddai.

“I rai, mae yna heriau o hyd i gyfathrebu’n rhithiol a cheisio cyflwyno strategaethau, ymdrin â materion bob dydd o ran adnoddau dynol a mesur cynhyrchiant – fe fu’n gyfnod heriol iddyn nhw.

“Dyna pam, o ystyried y galw a’r adborth rydym wedi’i dderbyn gan sawl diwydiant, ein bod ni wedi penderfynu creu rhaglen arbennig a fydd yn rhoi sylw i nifer o’r themâu hyn, y mae modd eu teilwra i sectorau gwahanol.”

Yn ogystal â’r materion technegol a logisteg sy’n codi o weithio o bell ac yn hybrid, bydd y cwrs yn rhoi sylw i effeithiau seicolegol hunanynysu a chymhelliant i weithio, ynghyd â diogelu data, cyfraith gyflogaeth, rolau a chyfrifoldebau, gweithdrefnau a pholisïau’r sefydliad, manteision ac anfanteision i’r unigolyn a’r cyflogwr, a iechyd a diogelwch.

‘Diogelu ar gyfer y dyfodol yn hanfodol’

“Mae gweithlu sy’n gweithio o bell yn galw am ddull gwahanol o reoli ond hyd yn hyn, mae nifer o bobol wedi bod yn byw o ddydd i ddydd heb gyflwyno polisïau tymor hir i’w modelau a strategaethau busnes,” meddai Jane Keys wedyn.

“Mae diogelu ar gyfer y dyfodol yn hanfodol – fe welsom pa mor bwysig yw cael sefydliad gwydn – a dydy gweithio hybrid ac o gartref ddim yn mynd i ffwrdd yn fuan, felly bydd ei gofleidio a sicrhau bod gan eich sefydliad y ddeddfwriaeth a’r hyfforddiant cywir yn eu lle yn rhan fawr o’r addysg.

“Mae hi hefyd yn hanfodol fod gweithwyr yn teimlo’n werthfawr a bod modd ymddiried ynddyn nhw, o ystyried yr annibyniaeth sydd ynghlwm.

“Rydym yma i gefnogi pobol sydd ag unrhyw gwestiynau, ac yn edrych ymlaen at gyflwyno’r rhaglen a gweld sut mae’n esblygu dros y blynyddoedd i ddod i adlewyrchu dulliau gweithio cyfoes.”